Llun: PA
Mae Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi llu o fesurau yn ei Gyllideb er mwyn paratoi’r wlad ar gyfer effeithiau Brexit.

Datgelodd y Gweinidog Cyllid Michael Noonan doriadau treth ar gyfer twristiaeth, bwyd a busnesau amaethyddol fydd yn debygol o gael eu taro waethaf gan benderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Meddai bod Brexit wedi cynyddu’r risg i economi Iwerddon a bod y Llywodraeth yn ymateb i hynny.

Ychwanegodd Michael Noonan y byddai’r mesurau a gyhoeddwyd yn caniatáu i Iwerddon ddefnyddio adnoddau i leihau neu ddileu effaith ansicrwydd economaidd yn y dyfodol sy’n gysylltiedig â chanlyniad y refferendwm.

Er hynny, dywedodd fod economi Iwerddon mewn cyflwr da, a bod disgwyl i’r twf barhau dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’r Gyllideb yn cynnwys €500 miliwn (£450 miliwn) o doriadau treth.