Wedi i’r ffefryn i fod yn arweinydd nesaf UKIP gael ei gludo i’r ysbyty yn Strasbwrg, mae Steven Woolfe wedi cyhoeddi datganiad y prynhawn yma yn dweud ei fod yn teimlo’n well.

Ar ei wefan, mae’r Aelod o Senedd Ewrop yn dweud fod sgan CT wedi cadarnhau nad oes ceulad gwaed ar ei ymennydd, a’i fod yn eistedd i fyny yn y gwely yn “gwenu fel erioed”.

Fe lewygodd ar ôl cael ei daro mewn cyfarfod clirio’r aer o’i gyd-aelodau yn gynharach heddiw.

“Ar y funud, dw i’n teimlo dipyn bach yn well, yn hapusach… a dw i’n gwenu fel erioed,” meddai Steven Woolfe.

“Dw i’n cael fy nghadw i mewn dros nos heno er mwyn cael profion eraill, ac er mwyn gwneud yn siwr fod popeth yn iawn. Dw i’n eistedd i fyny yn y gwely, ac mae pobol yn dweud fy mod i’n edrych yn dda.

“Yr unig sgil-effaith ar hyn o bryd, ydi diffyg teimlad yn ochr chwith fy wyneb.”