Mae ffrae wedi codi rhwng y Democrat Tim Kaine a’r Gweriniaethwr Mike Pence wrth i ddirprwyon Hillary Clinton a Donald Trump fynd benben mewn dadl.

Cafodd Mike Pence ei herio tros nifer o ddatganiadau Donald Trump, a hynny yn ystod yr unig ddadl rhwng y dirprwyon yn America.

Tra ei fod e wedi osgoi trafod sylwadau dadleuol Donald Trump am fenywod, amheuon am ddinasyddiaeth Barack Obama a’i dymer ar y cyfan, roedd Mike Pence yn barod i amddiffyn Donald Trump yn wyneb beirniadaeth am ei fethiant i ddatgelu faint o dreth mae e wedi’i thalu.

Aeth Mike Pence, llywodraethwr Indiana, a Tim Kaine, seneddwr Virginia benben am 90 munud ym Mhrifysgol Longwood yn Virginia.

Amlinellodd y Gweriniaethwr agenda sy’n cynnwys polisi trethi, breintiau a mewnfudwyr, gan ladd ar y Democratiaid am fod yn wleidyddion gydol oes sy’n anfodlon newid a herio’r drefn yn y Tŷ Gwyn. Fe gyhuddodd y Democratiaid hefyd o sarhau’r Gweriniaethwyr.

Ond yn ei dro, fe heriodd Tim Kaine ei wrthwynebydd gan dorri ar ei draws dro ar ôl tro, gan alw ar Donald Trump i ddatgelu faint o dreth mae e wedi’i dalu dros y blynyddoedd.

Fe fu’n rhaid iddo hefyd amddiffyn gwendidau Hillary Clinton, gan ddadlau tros ei gonestrwydd a pha mor ddibynadwy yw hi.

Crefydd 

Roedd gwrthdaro hefyd tros ddaliadau crefyddol y ddau.

Tra bod Kaine yn Babydd sy’n gwrthwynebu erthylu ond sydd wedi pleidleisio droeon o blaid rhoi dewis i fenywod, roedd Pence yn gadarn ei wrthwynebiad.

Hefyd ar yr agenda roedd diogelwch cenedlaethol a chyfiawnder troseddol.

Bydd Clinton a Trump yn mynd benben mewn tair dadl cyn yr etholiad arlywyddol sydd i’w gynnal ymhen pump wythnos ar Dachwedd 8. Hillary Clinton sy’n cael ei hystyried yn enillydd y ddadl gynta’.

Mae’r polau’n awgrymu mai Hillary Clinton sydd ar y blaen ar hyn o bryd, a bod sylwadau dadleuol gan Donald Trump wedi cyfrannu at ostyngiad yn ei boblogrwydd.