Mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, Theresa May, herio’r Blaid Lafur yn uniongyrchol heddiw drwy ddatgan ei bod hi am symud y Blaid Geidwadol i dir canol gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig ac ymhellach i’r chwith.

Fe fydd hi’n wfftio’r Blaid Lafur gan ddweud bod eu harweinydd Jeremy Corbyn yn “rhith rhagrithiol o oruchafiaeth foesol”, gan gynnig y Blaid Geidwadol fel plaid a all gefnogi’r dosbarth gweithiol, cynnal y Gwasanaeth Iechyd a chefnogi gweision sifil.

Daw cynhadledd y Ceidwadwyr yn Birmingham i ben heddiw wrth i May droi ei sylw oddi ar Brexit a thuag at ddiwygiadau cymdeithasol yng ngwledydd Prydain.

Mae disgwyl iddi ddweud ei bod hi am ailadeiladu’r Ceidwadwyr ar sail “tegwch a chyfleoedd”.

Bydd ei phwyslais ar “bobol dosbarth gweithiol gyffredin” yn hytrach na “phobol sy’n gweithio’n galed”, sef neges ei rhagflaenydd David Cameron.

Bydd hi’n dweud bod y Blaid Lafur yn “rhanedig” a bod ganddyn nhw’r gallu i “hollti”, a bod ei phlaid yn barod i “weithredu”.

Eisoes yn ystod y gynhadledd, mae’r Ceidwadwyr wedi cyhoeddi cynlluniau i helpu cymunedau difreintiedig, adeiladu tai fel rhan o becyn gwerth £5 biliwn, rhoi addewid i warchod hawliau gweithwyr, a sefydlu cronfa gwerth £140 miliwn i gefnogi cymunedau sy’n croesawu ffoaduriaid.