Jeremy Corbyn Llun: PA
Aled G J
ôb sy’n trafod y rhagolygon i Lafur wedi ei chynhadledd stormus yr wythnos ddiwethaf…

Mae yna baradocs mawr yn nodweddu’r stori hon sydd wedi denu cymaint o sylw dros yr haf ac sy’n debyg o lenwi colofnau papur newydd am fisoedd eto i ddod.

Ar y naill law, mae’r bybl cyfryngol/San Steffanol yn unfryd unfarn nad oes gan Jeremy Corbyn unrhyw obaith ennill Etholiad Cyffredinol, pryd bynnag y gelwir yr etholiad hwnnw. Mae’r ddadl hon wedi ei hail-adrodd cymaint o weithiau fel ei bod yn atgoffa dyn o’r dywediad Lladin hwnnw; “Argumentum ad Populum” (Oherwydd bod cymaint o bobl yn dweud ei fod yn wir, felly mae’n rhaid ei fod o’n wir).

Ond wedyn, mae’r polau piniwn sydd yn mesur poblogrwydd arweinwyr y pleidiau ymhlith y cyhoedd hefyd yn awgrymu bod Corbyn dal i bolio’n drybeilig o wael ar bob cyfrif.

Ac eto, ar y llaw arall,  mae’n ymddangos imi fod syniadau Corbyn am symud tuag at wleidyddiaeth gwirioneddol gyfranogol rhagor na’r hen wleidyddiaeth gynrychioladol, mynd i’r afael ag anghyfartaledd a sicrhau cymdeithas decach, buddsoddi yn yr economi go iawn ac ymestyn cyfleoedd i bawb bron megis meme tawel-bwerus sy’n prysur ymledu i bobman er nad oes modd ei fesur yn iawn ar hyn o bryd.

Ar un ystyr, dydi hyn ddim yn rhyfeddod o gwbl. Mae gwledydd Prydain wedi profi 35 mlynedd o neo-ryddfrydiaeth sydd wedi arwain at un o’r cymdeithasau mwyaf anghyfartal ar gyfandir Ewrop. Mae hanes yn dangos inni mai symud mae’r pendil yn anorfod wedi hyn a hyn o amser, ac yn dilyn Brexit a’i holl oblygiadau, mae yna synnwyr cynyddol ein bod mewn cyfnod gwahanol  a phob math o bosibiliadau newydd yn brwydro i weld golau dydd.

Ond ynghanol y posibiliadau newydd hyn, y caswir sy’n rhaid ei wynebu yw bod y Brand Llafur ei hun bellach yn farw. Yn y lle cyntaf, mae’r enw ei hun bellach yn ymddangos yn hollol anachronistaidd ac amherthnasol yn 2016, yn gyforiog o gyfeiriadaeth at orffennol a math o gymdeithas sydd wedi hen ddiflannu o’r tir.

Yn ail, collodd Hen Lafur bob credinedd ym marn yr etholwyr oherwydd yr ystrydebau am or-ddylanwad yr undebau llafur,  diflaniad yr hen weithfeydd traddodiadol a’r ffaith fod Llafur Newydd ei hun yn ymdrech mor fwriadol nid yn unig i’w disodli ond hefyd ei thanseilio.

Yn ei thro, mae Llafur Newydd hefyd wedi ei dinistrio’n racs jibiders erbyn hyn. Yn bennaf efallai oherwydd Rhyfel Irac, ond hefyd am iddi or-addoli’r farchnad ariannol yn Llundain, colli cysylltiad â’i chefnogwyr traddodiadol, closio gormod at y Ceidwadwyr a chreu’r canfyddiad cyhoeddus mai prif ddiben y blaid oedd caniatáu i griw o siwtiau yn San Steffan i bluo’u nythod eu hunain uwchlaw popeth arall.

Erbyn hyn, yr hyn sy’n weddill yw Llafur Gwerylgar. Er gwaethaf ail fuddugoliaeth Corbyn, a methiant llwyr y coup yn ei erbyn dros yr haf – go brin y caiff yr hollt rhyngddo ef â’r mwyafrif helaeth o’r aelodau seneddol ei gyfannu.  Bydd y “trench warfare” y rhybuddiodd Corbyn rhagddo yn symud i dir newydd  a chyfnod newydd mewn dim o dro gyda Tom Watson, Sadiq Khan, a Chuka Umunna ymhlith eraill yn codi’u pennau yn rheolaidd uwchben y ffosydd i danio bwledi dirifedi at eu harweinydd druan.

Y Llafur Gwerylgar hon fydd ei diwedd hi mae gen i ofn. Mi fydd hi’n drist ar un wedd gweld sefydliad a fu mor ganolog a dylanwadol yn hanes Gwledydd Prydain yn dod i ben. Ond wedyn, o weld natur hunanddinistriol y Blaid oedd mor amlwg o hyd yn eu cynhadledd yn Lerpwl a’r dybiaeth hollol ymhonnus hon fod ganddi hawl i siarad dros “yr holl wlad” fondigrybwyll, daw rhywun i’r casgliad mai bendith ac nid melltith fydd hynny yn y pendraw.

Be’ allai ddod yn ei lle felly?

Synnwn i damaid y bydd  symudiad cymdeithasol Momentum yn datblygu i fod  yn drefniant gwleidyddol yn ei hawl ei hun cyn hir. Yn fan hyn mae’r syniadau, y bwrlwm, yr egni, a’r brwdfrydedd sydd ei angen i greu newid go iawn, ac i apelio at y miliynau dadrithiedig sydd wedi hen golli ffydd yn y system wleidyddol bresennol.

Yn y creadigrwydd organig hwn, fe welwn ni fersiwn Lloegr o’r hyn sydd wedi bod ar waith yn yr Alban ers 2014  a hynny gyda’i ffurf ei hun a’i ddeinameg ei hun.  Dyma’n union y math o wleidyddiaeth gyfranogol, drawsnewidiol y mae Jeremy Corbyn am ei weld yn ennill ei phlwyf, ac yn y sefyllfa ryfedd sydd ohoni ar hyn o bryd, pwy sydd i’w ddweud na fydd Momentum yn tyfu’n ddylanwadol iawn yn Lloegr cyn hir?

Bydd yr aelodau seneddol Llafur gwrth-Gorbynaidd hwythau yn gorfod wynebu llif hanes hefyd a phenderfynu ai ymuno gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol a fyddai orau iddyn nhw, neu ymffurfio o dan enw newydd sbon –  “Democrats Together” efallai?

Ond pa bynnag ffurfiau a ddaw yn lle’r Blaid Lafur, yn hwyr neu’n hwyrach bydd rhaid i’r ffurfiau newydd hyn gydnabod yr eliffant ar riniog y drws sef natur Lloegr ei hun. Roedd hi’n arwyddocaol iawn cyn lleied o son a fu am yr Alban a Chymru yn y gynhadledd yn Lerpwl, felly efallai’n wir fod y tir yn cael ei baratoi ar gyfer wynebu’r eliffant. Ond wedyn, mae’n eliffant trafferthus iawn yn anffodus.

Sut mewn difri calon mae unrhyw blaid yn gallu llunio un neges ystyrlon all apelio at ddinas gosmopolitan Llundain, Mondeo Man yr Home Counties, ardaloedd gwledig y de, dinasoedd mawr fel Birmingham a Lerpwl, ardaloedd ôl-ddiwydiannol y Midlands a’r Gogledd-Ddwyrain, ac ardaloedd anghofiedig megis Cernyw a Gwlad yr Haf oll ar yr un pryd? Mae Lloegr yn wlad hollol ranedig yn ei hanfod ac mae’n ymddangos bod ei hen deyrnasoedd unigol megis Mercia, Wessex, a Northumberland yn parhau i daflu’u cysgod drosti.  Adlewyrchiad o’r rhaniad hwn fu holl dreialon y Blaid Lafur dros y blynyddoedd diwethaf mewn gwirionedd wrth iddynt frwydro i geisio cadw’r cwbl at ei gilydd. A bellach mae Brexit wedi dangos inni noethni llwm y cawr hwn sydd wedi teyrnasu dros yr ynysoedd hyn cyhyd.

Mae’n debyg mai’r unig beth all uno Lloegr yn y pendraw yw neges genedlaethol am hawl Lloegr i fodoli fel cenedl a bydd rhaid i Momentum a Democrats Together ddechrau llunio’r neges honno yn gyflym iawn gan fod UKIP eisoes ar y trywydd hwn yn barod.  A gyda’r Ceidwadwyr yn blaid Lloegr de facto yn barod, bydd cryn gystadleuaeth yn eu hwynebu am deyrngarwch cenedlaethol y Saeson.

A’r oblygiadau i Gymru? Er y gwag obeithio a fu mewn rhai cylchoedd am anwybyddu Lloegr a  sefydlu perthynas uniongyrchol gydag Ewrop, does dim modd inni ysgaru’n hunain o’r hyn sy’n digwydd ym myd ein cymydog mawr yn anffodus. Mae’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr wastad am ddylanwadu ar Gymru mewn amryfal ffyrdd.

Ond byddai gweld radicaliaeth Momentwm yn deffro Lloegr o’i thrwmgwsg  ynghyd â neges genedlaethol am ei rôl newydd yn y byd yn cynnig cyfleoedd newydd i Gymru hithau.  Felly, ble mae’r Momentwm Cymreig?!