Huw Edwards (Llun cyhoeddusrwydd rhaglen The Wales Report, BBC One)
Mae’r newyddiadurwr Huw Edwards, sy’n cyflwyno rhaglen wleidyddol The Wales Report yn dweud iddo gael “sioc” gan y modd y mae gweinidogion llywodraeth yng Nghymru yn trin y syniad o roi cyfweliadau.

Mae gweinidogion San Steffan yn llawer mwy atebol, meddai, ac mae’n credu mai dyna sut y dylai pob gwleidydd â chyfrifoldeb fod wrth ddelio â newyddiadurwyr.

Wrth annerch theatr rwydd lawn yn Galeri, Caernarfon dros Benwythnos yr Inc, roedd Huw Edwards yn rhyfeddu na chafodd erioed ond un cyfweliad â chyn-Weinidog Economi Cymru… a bod y cyfweliad hwnnw wedi dod trwy fegian.

“Dyma fi’n dweud rhywbeth mentrus iawn wrthoch chi nawr, ac os fyddwch chi’n mynd mas a dweud hyn fydda’ i’n gwadu fy mod i wedi ei ddweud e,” meddai. “Chi’n gwybod y sioc fwya’ dw i wedi ei gael wrth wneud y gyfres yma? Mae’n lot fwy anodd i gael cyfweliade gyda gweinidogion yng Nghaerdydd nag yw hi yn Llunden.

“Pan ydych chi’n rhoi cais mewn am gyfweliad gyda Gweinidog yn Llunden, pwy bynnag ydyn nhw, ar wahân i os ydych chi’n sôn am Ganghellor ac yn y blaen (mae hwnna bach yn wahanol)… ond fel y bydde’r Sais yn dweud, y default answer normal ydi ‘ie’.

“Yng Nghaerdydd – er bod ychydig o newid wedi bod yn hyn, er tegwch – yr ymateb fel arfer yw, ‘pam ddylen i wneud cyfweliad?’ A dw i’n meddwl ei bod hi’n agwedd sydd ddim yn iach,” meddai Huw Edwards. “Mae atebolrwydd yn beth pwysig… mae’n rhaid i bobol fod yn agored.

“Mae’n rhaid i Weinidogion, pobol sydd â chyfrifoldeb, fod yn atebol… ac mae gwneud cyfweliadau ar raglenni fel hyn yn ffordd o wneud hynny.”

Dau ddiwylliant gwahanol 

“Mae ambell i weinidog yn llywodraeth ola’ Carwyn [Jones] – dim y llywodraeth hon – dw i ddim yn meddwl fy mod i wedi cael cyfle i wneud unrhyw gyfweliad gyda rhai ohonyn nhw. Dim o gwbwl.

“Dyw Edwina Hart nawr ddim yn Weinidog, ond roedd hi’n ffigwr mawr yn y llywodraeth ola’, a ges i un cyfweliad gyda hi… ac oedd hynny ar ôl begian!” meddai Huw Edwards. ”Ac roedd hi’n gyfrifol am yr economi. Dw i ddim yn dweud nad oedd hi’n gwneud ei job yn dda, nid mater i fi yw hynny, dw i jyst yn dweud bod atebolrwydd yn beth pwysig iawn.

“Ac i fi, mae yna wahaniaeth yn y diwylliant [rhwng San Steffan a Bae Caerdydd].”