Mae un o wynebau amlyca’ newyddion y BBC wedi ymosod yn gyhoeddus ar ddau ffigwr blaenllaw yn stori Aberfan, gan alw’r ymchwilad a fu yn dilyn y ddamwain hanner canrif yn ôl, fel “sgandal” a stori “warthus iawn”.

Mewn sgwrs am ei yrfa ac am gyflwr newyddiaduraeth yn ystod Penwythnos yr Inc yng Nghaernarfon dros y Sul, fe aeth Huw Edwards ati i egluro pam mae gweithio ar raglen ar yr hyn ddigwyddodd yn y misoedd wedi i’r domen o wastraff glo gwympo ar ysgol gynradd Pwllglas ar Hydref 21, 1966, wedi bod yn yn  brofiad “ysgytwol”.

Ac fe aeth yn grac wrth gyfeirio at Gadeirydd y Bwrdd Glo ar y prys, Alf Robens, fel “pwrs”, ac ymosod wedyn ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, George Thomas,

“… Pan ydych chi’n mynd ati i edrych ar yr ymchwiliad swyddogol ddigwyddodd ar ol Aber-fan, dyna pan ydych chi’n cael profiad ysgytwol,” meddai wrth theatr rwydd lawn yn Galeri. “Dyw’r stori honno ddim wedi cael ei hadrodd yn llawn… achos credwch chi fi, gyfeillion, dyna un o sgandalau mwya’ y ganrif aeth heibio yng Nghymru.

“Mae’n warthus. Fe drefnon nhw dribiwnlys, o fewn rhyw fis i’r peth ddigwydd. Dychmygwch heddiw, fe fydden nhw’n trafod ac yn dewis aelodau’r panel ac yn y blaen… fe ddigwyddodd hwn o fewn mis, ac fe gymrod yr ymchwilad rhyw dri mis.”

Alf Robens, “y pwrs”

“Chi’n nabod y pwrs yma, fan hyn?” oedd cwestiwn cynta’ Huw Edwards wrth bwyntio at lun ar y sgrin fawr o Alf Robens. “Wrth gwrs, diwydiant yn perthyn i’r wladwriaeth [oedd e]; diwydiant wedi dod i mewn i ofal cyhoeddus yn 1947.

“Roedd pawb yn Aber-fan yn gwybod beth oedd wedi digwydd. Roedd y tipie glo yn cael eu hadeiladu ar ddŵr – nentydd a ffynhonnau ac yn y blaen – roedd ochrau’r mynyddoedd yn wlyb. Ac roedd pawb yn gwybod fod hynny yn beryglus. Roedd yna slip wedi bod yn Aberf-fan yn 1944, un arall wedi bod mewn cwm cyfagos ddim yn bell o Bontypridd, Cilfynydd… oedd pawb yn gwybod am y peryglon. Ond oedd neb eisie wynebu’r ffaith bod yna beryglon.

“Ac felly pan ddigwyddodd Aberfan, wrth gwrs be’ wnaeth hwn (Alf Robens) oedd peidio dod yna am ddau ddiwrnod i ddechre, ac wedyn pan ddaeth e yna, gwadu unrhyw wybodaeth o gwbwl am y peryglon. Gwadu pob dim. Dim cyfrifoldeb. Dim gwybodaeth. Roedd y peth yn rhyw fath o gyd-ddigwyddiad ofandw. Problemau daearegol. A curious geological combination, medde fe, oedd i gyfri am drychineb Aberfan.

“Yn y tribiwnlys, wrth gwrs, dangoswyd ei fod yn gelwyddgi noeth,” meddai Huw Edwards wedyn, “ac fe feirniadwyd y Bwrdd Glo yn hallt am y trychineb; am fethu cael canllawiau clir, ac am fethu gwneud eu gwaith yn gydwybodol. Chafodd neb y sac. Chafodd neb eu disgyblu. Chafodd neb golli unrhyw fath o fantais. Dim. Dim yw dim.

“Fe ga’dd Robens ddyrchafiad ar ôl hynny. Chi’n gwybod be’ ga’dd e ar ôl bod yn y Bwrdd Glo ac ar ôl bod yno pan wnaeth Aberfan ddigwydd? Chi’n gwybod pa swydd ga’dd e gan Harold Wilson? Head of the Health and Safety Executive! Allech chi ddim ei wneud e lan, allech chi?”

George ac arian y gronfa elusen

“Un o feibion y Cymoedd, un o feibion y pylle glo ac yn y blaen” oedd George Thomas, Aelod Seneddol Gorllewin Caerdydd ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd. Ond, yn ôl Huw Edwards, mae’r modd y defnyddiodd y gwleidydd arian o’r gronfa elusen o filiwn a thri chwarter o bunnoedd a gyfrannwyd gan bobol o bob cwr o’r byd, yn troi stumog dyn.

“Doedd neb eisie talu am glirio’r tipie glo uwchben Aberfan. Ond dychmygwch fod yr holl beth yma wedi digwydd a’r holl blant ac oedolion wedi’u lladd, ac roedd y tipie glo yn dal uwchben y pentre’, er eu bod nhw’n dal yn beryglus. Oedd isie eu gwared nhw. Oedd isie eu clirio nhw.

“Bwrdd Glo, Robens, yn gwrthod talu. Llywodraeth yn gwrthod talu. Dim arian gan awdurdodau lleol ym Merthyr i dalu, chware teg – oedden nhw wedi cael baich rhyfeddol o drwm. Ond, fe gafodd George syniad a hanner, ac fe benderfynodd e ei fod e wedi gweld mynydd o arian yn rhywle, achos be’ ddigwyddodd ar ôl Aberfan fel mae nifer ohonoch chi’n gwybod, oedd bod yna gronfa elusennol wedi cael ei sefydlu dros y byd – miliwn a thri chwarter o bunne – ac oedd pobol wedi cyfrannu, wedi gweld y dioddefaint ac wedi bod yn hael iawn.

“Welodd George ei gyfle,” meddai Huw Edwards, “ac fe fynnodd e fod pobol Aberfan yn talu tipyn o’r gost am glirio’r tipie yma gyda’r arian oedd wedi dod yn y gronfa elusennol.

“Ac fe gymrodd hi ddeng mlynedd ar hugen i bobol Aberfan gael yr arian yn ôl gan Lywodraeth Cymru. Deng mlynedd yn hugen o ymladd! Mae’n stori warthus, yn warthus iawn. Ond arhoswch chi tan y rhaglen. Mae’n gorcer!”