Huw Prys Jones yn dadlau bod diffyg gweledigaeth Llafur yn ei hymateb i bleidlais Brexit yn llawer mwy o broblem iddi na phwy sy’n ei harwain
Roedd buddugoliaeth Jeremy Corbyn dros Owen Smith yn ysgubol ac yn haeddiannol. Roedd yn sicr yn rhagori ar ei wrthwynebydd o ran diffuantrwydd a gallu i ennyn parch. Barn sylwebwyr hefyd yw fod ei berfformiad yn ystod cynhadledd y Blaid Lafur yr wythnos ddiwethaf yn llawer gwell na’r hyn mae wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf.
Anodd fodd bynnag oedd canfod unrhyw arwyddion fod Llafur am ddatblygu i fod yn wrthblaid gredadwy ac effeithiol yn y flwyddyn sy’n dod.
Yr hyn sydd gennym yn y Senedd ers dechrau’r haf yw llywodraeth sydd heb gael ei hethol ac sy’n sicr o fod, o dan yr wyneb o leiaf, yn llawn rhaniadau chwerw.
Tasg gymharol hawdd i unrhyw wrthblaid werth ei halen fyddai tanseilio gwaith y llywodraeth, a dinistrio ei hygrededd.
Yn lle hynny, mae’n ymddangos nad oes gan Lafur syniad lle i droi ers y bleidlais Brexit, a’n bod o ganlyniad yn byw o dan lywodraeth un-blaid.
Mae’r cyfryngau’n rhoi sylw parhaus i’r rhaniadau o fewn Llafur – ond gwaeth o lawer nag unrhyw raniadau ydi ei bod yn ymddangos yn gwbl amddifad o unrhyw weledigaeth o’r ffordd ymlaen dros y blynyddoedd nesaf.
Ymateb llywaeth
Does dim arwydd cliriach o ddiffyg gweledigaeth Llafur na’i hymateb llywaeth i ganlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd parodrwydd Jeremy Corbyn i dderbyn y canlyniad o’r dechrau yn tanlinellu ei ddiffyg brwdfrydedd dros undod gwleidyddol yn Ewrop.
Lawn cyn waethed â hynny yw’r meddylfryd gan y mwyafrif o’u Haelodau Seneddol fod canlyniad y refferendwm yn rhywbeth sy’n rhaid ei wireddu doed a ddelo.
Mae hyn yn hurt. Dydi cydnabod realiti canlyniad unrhyw bleidlais ddim yn golygu bod angen ildio’n ddigwestiwn i amcanion eich gwrthwynebwyr – yn enwedig rhai mor gelwyddog a diegwyddor ag arweinwyr Brexit.
Dydi Aelodau Seneddol Llafur ddim yn teimlo dyletswydd i bleidleisio gyda’r Torïaid yn y Senedd ar faterion fel torri budd-daliadau, ar y sail mai nhw ydi’r llywodraeth gafodd ei hethol gan y ‘bobl’.
Gan fod canlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd mor bellgyrhaeddol – a dim cyfle i’w wrthdroi mewn pleidleisiau dilynol fel gydag etholiadau – mae’n bwysicach fyth fod gwleidyddion yn barod i sefyll dros yr hyn maen nhw’n ei gredu sy’n iawn.
Ac yn wyneb celwyddau a hiliaeth ymgyrchwyr Brexit, mae’n ddyletswydd ar unrhyw wleidyddion radical i wneud popeth yn eu gallu i lesteirio gwaith y bobl hyn yn y llywodraeth.
Yn wir, mae methiant Jeremy Corbyn a John McDonnell i wneud hyn yn codi cwestiynau ynghylch pa mor radical ydyn nhw mewn gwirionedd.
Sefyllfa anodd
Mae’n wir fod canlyniad y refferendwm wedi rhoi gwleidyddion Llafur mewn sefyllfa anodd gyda chymaint o’u cefnogwyr traddodiadol yn cefnogi Brexit.
Eto i gyd, rhaid amau pa mor ddoeth ydi eu gor-barodrwydd i dderbyn Brexit a’u cyndynrwydd i godi bys bach i geisio gosod rhwystrau yn ei ffordd.
Wedi’r cwbl, mae’r arolygon yn dangos bod mwyafrif cefnogwyr Llafur – tua dau draean ohonyn nhw – wedi cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn yr un modd, mae mwyafrif llethol y bobl ifanc ledled Prydain wedi cefnogi aros. Yn eu brwdfrydedd dros blygu glin i gefnogwyr Brexit, mae Llafur – gan gynnwys ei charfan fwyaf radical – yn troi cefn ar ran helaethaf ei chefnogwyr a’i darpar gefnogwyr yn y dyfodol.
Fe all penderfyniad Llafur i roi blaenoriaeth yn hytrach i bryderon to hŷn rhai o’i chefnogwyr mwyaf adweithiol yn ei chadarnleoedd achosi problemau iddi maes o law.
Waeth i’w harweinwyr heb â rhamantu trwy weld y bleidlais Brexit fel galwad am gymdeithas decach gan bleidleiswyr dosbarth gweithiol a di-waith mewn ardaloedd difreintiedig. Roedd cenedlaetholdeb Seisnig/Prydeinig a rhagfarn yn erbyn tramorwyr yn sicr o fod yn ffactor yr un mor bwysig mewn llawer lle o Sunderland i Flaenau Gwent.
Rhaid cofio hefyd mai lleiafrif gweddol fach o gefnogwyr Brexit oedd pleidleiswyr ardaloedd difreintiedig fel hyn.
Dosbarth canol asgell dde o dde Lloegr oedd trwch cefnogwyr Brexit, na fydd gan unrhyw blaid radicalaidd obaith mul o ennill eu cefnogaeth fyth.
Ar y llaw arall, mae llawer o’r bobl a bleidleisiodd dros aros i mewn wedi eu cythruddo o weld cefnogwyr Brexit yn rheoli’r llywodraeth. Yn eu plith mae llawer o bleidleiswyr cymedrol Torïaidd a allai’n hawdd fod yn chwilio am blaid newydd i’w chefnogi yn yr etholiad nesaf.
Heb fychanu dilema Llafur o gwbl, gallai cau’r drws ar y 48% a bleidleisiodd dros aros yn Ewrop gostio’n ddrud iddi yn y pen draw.
Os nad oes ganddi weledigaeth flaengar ar bwnc pwysicaf y dydd, anodd gweld pam y dylai’r etholwyr ei chymryd o ddifrif ar hyn o bryd nac yn yr etholiad nesaf.