Yn ei araith i Gynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl heddiw, mae Jeremy Corbyn wedi cael ei ganmol am “swnio fel arweinydd”.

Er hynny, o ran hyd, ei araith ef eleni oedd y byrraf ers araith Tony Blair i gynhadledd 2006, yn cynnwys 6,000 o eiriau.

Ymhlith y geiriau hynny:

– Fe gafodd y gair ‘sosialaeth’ neu ‘sosialaidd’ ei grybwyll bump o weithiau i gyd. Dyma’r tro cynta’ i’r gair ymddangos yn araith arweinydd y blaid ers cyfeiriad Ed Miliband at ei dad wrth annerch aelodau’r blaid yn 2010;

– Chafodd y gair ’diffyg’ ddim ei grybwyll unwaith;

– Soniodd Jeremy Corbyn am “lywodraeth Lafur” wyth o weithiau, tra bod 13 cyfeiriad at “y Torïaidd”;

– Fe gyfeiriodd Jeremy Corbyn at y “breintiedig rai” ar chwech achlysur;

– Geiriau eraill a gafodd eu defnyddio’n aml oedd “buddsoddiad” (13 o weithiau); “gweithwyr (deg gwaith); “cymunedau” (wyth gwaith) a “tai” (saith gwaith);

– Dim ond Gordon Brown, o blith y cyn-arweinyddion Llafur, gafodd ei grybwyll yn araith yr arweinydd newydd.