Llun: PA
Fe fydd y Blaid Lafur yn addo biliynau o bunnau i gefnogi ardaloedd difreintiedig fydd yn cael llai o arian gan Ewrop yn sgil pleidlais Brexit, gyda Chymru i elwa fwyaf o’r cyllid.

Bydd yr addewid, fydd yn cael ei gyhoeddi yng nghynhadledd flynyddol y blaid yn Lerpwl heddiw, yn golygu bod llywodraethau Llafur y dyfodol yn ariannu’r £9.3 biliwn oedd am ddod o gronfa Ewrop i ranbarthau gwledydd Prydain rhwng 2014 a 2020.

Roedd Cymru am gael £2.1 biliwn o Ewrop dros y saith mlynedd nesaf, sy’n fwy nag unrhyw ‘ranbarth’ arall ar y rhestr.

Dyma fydd un o brif addewidion maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer yr etholiad nesaf, yn ôl ysgrifennydd tramor y blaid, Emily Thornberry fydd yn gwneud y cyhoeddiad yn ddiweddarach.

Mae disgwyl i’r maniffesto hefyd gynnwys addewidion i wrthsefyll ymdrechion i gael gwared a hawliau cyfreithiol a rhaglenni buddsoddi oedd yn deillio o aelodaeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Daliodd Jeremy Corbyn ei afael ar yr arweinyddiaeth ddydd Sadwrn, yn dilyn y cyhoeddiad ei fod e wedi ennill 61% o’r bleidlais yn erbyn Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith.