Mae cyn-bennaeth y wasg David Cameron, Syr Craig Oliver wedi datgelu rhwystredigaeth y cyn-Brif Weinidog gydag agwedd y Prif Weinidog newydd, Theresa May at refferendwm Ewrop.

Roedd Cameron yn anfodlon oherwydd nad oedd May yn fodlon datgelu ei safbwynt y naill ffordd neu’r llall droeon yn ystod yr ymgyrchu.

Yn ôl Oliver, methodd May â chefnogi Cameron 13 o weithiau cyn iddi ddatgan ei bod hi o blaid aros – a dim ond oherwydd fod y ddau wedi ffraeo yn ystod sgwrs dros y ffôn.

Yn ei lyfr ‘Unleashing Demons: The Inside Story of Brexit’, sy’n cael ei gyhoeddi fesul dipyn yn y Mail on Sunday, mae Oliver hefyd yn lladd ar yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson am yr un rheswm.

Dywedodd fod Johnson wedi anfon neges destun at Cameron un diwrnod yn dweud y byddai’n ymgyrchu o blaid gadael, gan anfon ail neges yn awgrymu y gallai newid ei feddwl.

‘Llofruddiaeth a brad’

Serch hynny, mae Oliver yn cyfaddef fod agwedd May wedi ei helpu ar ôl  y bleidlais ar Fehefin 23.

“Yng nghanol llofruddiaeth a brad yr ymgyrch, arhosodd un ffigwr yn llonydd iawn yn y canol – Theresa May. Nawr, hi yw’r un sy’n dal ar ôl.

“Mae’n swnio fel pe bai hi wedi gwrthod dod oddi ar y ffens. O’i safbwynt hi mae’n strategaeth glyfar, ceisio dangos ei bod hi ar ei phen ei hun, gan ei galluogi hi i gael y gorau o ddau fyd, ond dydy hynny ddim yn ymddangos yn deg ar DC, sydd wedi ei thrin hi’n dda.”

Ychwanegodd fod Cameron yn ansicr drwyddi draw a oedd ganddo fe gefnogaeth May, oedd yn Ysgrifennydd Cartref Prydain ar y pryd, a bod Cameron wedi cael naw munud o rybudd fod Johnson yn ymgyrchu o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.