Fe allai Nicola Sturgeon alw ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban yn hydref 2017, gyda phleidlais ar ddyfodol y Deyrnas Unedig ym Mai neu Fehefin 2018. Dyna farn cyn-Brif Weithredwr ymgyrch ‘Yes Scotland’.

Yn ôl Blair Jenkins, fydd Prif Weinidog yr Alban ddim yn cyhoeddi ail bleidlais ar annibyniaeth, nes y bydd Theresa May, Prif Weinidog Prydain, wedi dechrau ar y broses ffurfiol o dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd.

Dyna pam, meddai, mai tua blwyddyn i nawr yw’r dyddiad mwya’ tebygol – wedi i Erthygl 50 ddod i rym, ac wedi i ryw fath o ddêl Brexit gael ei chytuno.

Dan yr amgylchiadau hynny, meddai Blair Jenkins, fe fyddai’n disgwyl i’r Albanwyr gael ail gyfle i bleidleisio tros annibyniaeth ym mis Mai neu Fehefin 2018.

“Fydd Nicola Sturgeon ddim yn galw refferendwm cyn bod Erthygl 50 wedi dod i rym,” meddai. “Allwch chi ddim galw refferendwm cyn gwybod beth fydd sefyllfa’r Alban mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd.

“Mi faswn i’n meddwl, wedi i Erthygl 50 ddod i rym gan y Deyrnas Unedig yn ystod chwarter cynta’ 2017, mae’n debygol iawn y byddwn ni’n gwybod sut mae’r gwynt yn chwythu o ran Brexit erbyn hydref 2017.

“Dw i’n meddwl mai dyna pryd fyddai’r adeg cynhara’ i Nicola Sturgeon allu galw ail refferendwm… ac wedyn, fe fyddai’n rhaid edrych ar Fai neu Fehefin 2018 fel y dyddiad tebygol i gynnal y refferendwm hwnnw.”