Mae Pwyllgor Seneddol wedi dod i’r casgliad nad yw’r chwyldro a addawyd wrth ddiwygio troseddwyr ddwy flynedd yn ôl heb ei wireddu eto.

Dechreuodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyda gwelliannau i’r gwasanaeth prawf yn 2014, gyda’i nod o leihau yr achosion o ail-droseddu, ond mae ymhell o wireddu’r disgwyliadau, yn ôl Aelodau Seneddol.

Yn ôl yr adroddiad, mae bron i 60% o bobol sy’n cael eu hanfon i garchar am gyfnod llai na 12 mis yn ail droseddu ymhen blwyddyn.

“Y peryg mwyaf yw fod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi methu dygymod gyda’r gwaith,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, Meg Hillier.

Risg uchel

Mewn ailwampiad o’r gwasanaeth yn 2014, cafodd y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol ei sefydlu i ddelio gyda throseddwyr risg uchel, tra fod gweddill y gwaith yn cael ei basio i gwmnïau adferiad cymunedol.

Ond mae’r adroddiad yn nodi bod “y Weinyddiaeth Gyfiawnder eto i ddod â’r chwyldro mewn adferiad a addawyd ganddynt, tra’n ceisio gweithredu hynny heb yr adnoddau”.

“Mae uchelgais yn un peth, ond mae cyflawni canlyniadau positif ar gyfer y trethdalwr a chymdeithas yn gyffredinol yn fater arall,” meddai Meg Hillier.

“Mae’r term ‘chwyldro’ yn air mawr ac mae’n bosib fod y Llywodraeth yn dyfaru defnyddio’r term i ddisgrifio ei rhaglen o ddiwygiadau.”