"Brysiwch i ddechrau Brexit" meddai llywydd Senedd Ewrop wrth Theresa May
Mae llywydd Senedd Ewrop wedi cynyddu’r pwysau ar Lywodraeth Prydain i fwrw ymlaen gyda’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd – a hynny cyn gynted ag y bo modd.

Mae Martin Schulz yn cyfarfod Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn Downing Street heddiw, ac mae o’r farn y dylai’r llywodraeth ddechrau’r broses trwy sbarduno Erthygl 50 cyn gynted ag y bo modd.

Mae’n gweld y dylai’r trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd orffen cyn etholiadau Ewrop ym 2019, gyda disgwyl y bydd y trafodaethau yn cymryd dwy flynedd i ddod i fwcwl.

Rhyddfreiniau’r farchnad sengl

Mewn datganiad gan Martin Schulz cyn cyfarfod Theresa May yn Downing Street, meddai: “Fe fyddwn yn ailadrodd pam fod Senedd Ewrop yn cadw at bedwar o ryddfreiniau’r farchnad sengl – nwyddau, cyfalaf, gwasanaethau a phobol yr un mor gydradd.

“Yn Llundain, fe fyddaf yn pwysleisio pam fod Senedd Ewrop yn ffafrio fod erthygl 50 yn cael ei sbarduno, sy’n rhag-amod i ddechrau trafodaethau.”