Llun: PA
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod lluoedd Prydain wedi cymryd rhan mewn cyrch awyr ar y cyd a’r Unol Daleithiau, y mae llywodraeth Syria yn honni oedd wedi lladd dwsinau o’u milwyr dros y penwythnos.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn “cydweithredu’n llawn” â’r ymchwiliad i ganfod yr hyn ddigwyddodd yn sgil y cyrch awyr i’r de o Dayr az Zawr ddydd Sadwrn.

Mae lluoedd yr Unol Daleithiau eisoes wedi derbyn y gallen nhw fod wedi taro milwyr Syria yn anfwriadol wrth iddynt gynnal cyrchoedd ar y cyd yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae lle i gredu y gallai hyd at 62 o filwyr fod wedi’u lladd, ac mae Rwsia wedi rhybuddio y gallai hyn beryglu’r cadoediad bregus sy’n cael ei weithredu yn Syria ar hyn o bryd.

“Gallwn gadarnhau fod y DU wedi cyfrannu at y cyrch awyr ar y cyd i’r de o Dayr az Zawr ddydd Sadwrn, ac rydym yn cydweithredu’n llawn â’r ymchwiliad,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

“Ni fyddai’r DU yn targedu unedau milwrol Syria yn fwriadol. Fyddai hi ddim yn briodol i gynnig sylwadau pellach ar hyn o bryd.”