David Cameron Llun: PA
Mae David Cameron wedi cyhoeddi heddiw ei fod yn ymddiswyddo o’i rôl fel Aelod Seneddol.

Roedd y cyn-Brif Weinidog yn cynrychioli etholaeth Witney yn Swydd Rydychen, ac mae ei benderfyniad heddiw yn golygu y bydd rhaid cynnal isetholiad ar gyfer y sedd honno.

Mae’n debyg ei fod wedi ymgynghori â Chadeirydd Cymdeithas y Ceidwadwyr a’i asiant etholaethol cyn cyhoeddi ei benderfyniad.

Daw’r cyhoeddiad ddeufis wedi iddo ymddiswyddo fel Prif Weinidog ar Orffennaf 13, a hynny yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

‘Anodd parhau ar y seddi cefn’

Dywedodd David Cameron wedi’r refferendwm ei fod yn “awyddus iawn i barhau” fel AS Witney, lle mae wedi dal y sedd honno ers 2001.

Ond, mae ei ddatganiad heddiw yn nodi:

“Ar ôl ystyried fy sefyllfa yn llawn dros yr haf, rwyf wedi penderfynu fy mod am roi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol Witney.”

“Yn fy marn i, mae’r amgylchiadau ynglŷn â fy ymddiswyddiad fel Prif Weinidog a gwirioneddau gwleidyddiaeth fodern yn ei gwneud hi’n anodd iawn imi barhau ar y meinciau cefn heb y risg o dynnu sylw oddi wrth y penderfyniadau pwysig sy’n wynebu fy olynydd yn Stryd Downing a’r llywodraeth,” meddai.

“Rwy’n cefnogi Theresa May yn llawn ac mae gen i hyder y bydd Prydain yn ffynnu o dan ei harweiniad cryf hi.”