Keith Vaz Llun: O wefan yr AS
Mae’r Aelod Seneddol Llafur, Keith Vaz, yn wynebu Pwyllgor Materion Cartref Llywodraeth Prydain heddiw i drafod ei ddyfodol fel Cadeirydd yn dilyn honiadau iddo dalu am wasanaethau puteiniaid gwrywaidd.

Mae Keith Vaz o dan bwysau i roi gorau i’w rôl fel cadeirydd y pwyllgor, ac mae hefyd yn wynebu ymchwiliad posib gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd.

Daw hyn yn dilyn honiadau ym mhapur newydd y Sunday Mirror, sy’n honni iddo gwrdd â dau ddyn mewn fflat o’i eiddo yng ngogledd Llundain fis diwethaf, ac iddo dalu am eu gwasanaethau.

Dyfodol ei yrfa

Mae Keith Vaz sy’n cynrychioli Dwyrain Caerlŷr wedi ymddiheuro’n gyhoeddus i’w wraig a’i blant am y “boen a’r gofid”

Ond dywed arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, nad oes angen i Keith Vaz adael y blaid gan ddweud nad yw “wedi cyflawni unrhyw drosedd yr ydw i’n ymwybodol ohono” gan ychwanegu ei fod yn “fater preifat”.

Dywedodd y Prif Weinidog Theresa May fod angen i etholwyr gael “hyder” yn eu gwleidyddion ond mater i Keith Vaz ydy dyfodol ei yrfa, meddai.