Llun: PA
Mae Theresa May wedi gwrthod y system bwyntiau a allai gael ei gyflwyno i reoli nifer y mewnfudwyr sy’n dod i’r Deyrnas Unedig.

Roedd y cynllun wedi’i ysbrydoli gan system debyg yn Awstralia, ac roedd yn un o brif addewidion yr ymgyrchwyr tros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond, a hithau yng nghynhadledd y G20 yn China heddiw, dywedodd Theresa May ei bod yn amau a fyddai system o’r fath wedi gweithio o gwbl.

Er hyn, addawodd na fyddai symudiad rhydd o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn medru parhau fel ag yr oedd ar ôl i Brydain adael yr UE.

‘Darlun cyfan’

“Mae llawer o bobl wedi trafod  system bwyntiau fel yr unig ateb ar gyfer mewnfudo. Does dim un ateb yn unig ar gyfer mynd i’r afael â mewnfudo,” meddai Theresa May.

“Mae’n rhaid ichi edrych ar y darlun cyfan, nid dod â rheolaeth yn unig i’r bobl sy’n dod i mewn, ond hefyd sicrhau ein bod yn cael gwared â cham-drin yn y system ac wrth gwrs yn delio â phobl sy’n cael eu canfod yma’n anghyfreithlon.”

Ychwanegodd ei bod am weld dinasyddion yr UE yn parhau yn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, ar yr amod bod hawliau dinasyddion Prydain dramor yn cael eu parchu, a dywedodd fod hynny ar frig eu hagenda pan fydd yn cyfarfod ag arweinwyr eraill gwledydd yr UE.

‘Dim atebion hawdd’

Ni wnaeth y Prif Weinidog gadarnhau peidio â chyfrannu at gyllidebau rhaglenni’r UE ar ôl Brexit chwaith, er bod cyfrannu arian i Frwsel yn un o’r pynciau llosg yn ystod dadl y refferendwm.

Nid yw chwaith yn medru cadarnhau addewidion yr ymgyrch i adael i sicrhau £100 miliwn yr wythnos yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd, na thoriad mewn cyfraddau TAW a biliau ynni.

Mewn ymateb i’w chyhoeddiad, dywedodd ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, Owen Smith, “y gwir amdani yw nad yw Brexit yn golygu Brexit.”

“Yn sicr dyw e ddim yn golygu mwy o arian i’r GIG fel yr addawyd. Ac mae’n ymddangos heddiw nad yw’n golygu atebion hawdd i fewnfudo fel yr addawyd.”