Keith Vaz Llun: O'i wefan
Mae Aelod Seneddol Keith Vaz yn wynebu ymchwiliad posib gan Gomisiynydd Safonau’r Senedd yn dilyn honiadau mewn papur newydd iddo dalu am wasanaethau puteiniaid gwrywaidd.

Mae’r AS Llafur wedi awgrymu y bydd yn camu o’r neilltu fel cadeirydd Pwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin mewn cyfarfod ddydd Mawrth ar ôl ymddiheuro’n gyhoeddus i’w wraig a’i blant am “y boen a’r gofid” y mae wedi’i achosi.

Roedd Keith Vaz wedi cwrdd â’r ddau ddyn mewn fflat o’i eiddo yng ngogledd Llundain fis diwethaf yn ôl adroddiadau yn y Sunday Mirror.

Mae’r AS Ceidwadol Andrew Bridgen wedi dweud wrth y Press Association y bydd yn ysgrifennu at Gomisiynydd Safonau’r Senedd ynglŷn ag ymddygiad Keith Vaz.

Mae arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn wedi dweud nad oes angen i Keith Vaz adael y blaid gan ddweud nad yw “wedi cyflawni unrhyw drosedd yr ydw i’n ymwybodol ohono” gan ychwanegu ei fod yn “fater preifat”.