Y ddadl dros annibyniaeth yn parhau yn yr Alban (llun: PA)
Fe fydd yr SNP yn arwain dadl seneddol ar hawliau hanesyddol pobl yr Alban yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth.
Gan gyfeirio at egwyddor y ‘Claim of Right for Scotland’, sy’n mynd yn ôl i’r 17eg ganrif, dadl yr SNP yw bod yn rhaid i lywodraeth Prydain barchu hawl pobl yr Alban i benderfynu ar y math o lywodraeth sydd fwyaf addas iddyn nhw.
Dywed Patrick Grady, AS Gogledd Glasgow, fod penderfyniadau’n cael eu gorfodi ar yr Alban gan gynnwys y penderfyniad i dynnu Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd.
“Yr hyn y bydden ni’n ei ddadlau yw bod diffyg democrataidd o hyd,” meddai.
“Egwyddor sylfaenol y ‘Claim of Right’ yw’r cysyniad hanesyddol o sofraniaeth y bobl yn yr Alban.
“Yn y Deyrnas Unedig, mae sofraniaeth bob amser wedi bod yn ymwneud â’r goron a’r brenin neu frenhines.”
Dywedodd fod yr egwyddor yn arbennig o berthnasol i’r ddadl dros refferendwm arall ar annibyniaeth.
“Hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno gydag annibyniaeth fe ddylech gytuno â’r egwyddor o refferendwm a hawl pobl yr Alban i ddewis y ffordd y cânt eu llywodraethu,” meddai.
“Yng nghyd-destun Brexit rydym yn amlwg wedi pleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd ond mae’r Deyrnas Unedig fel cyfanrwydd wedi pleidleisio dros adael.”