(llun o wefan Ty'r Cyffredin)
Mae’r cynlluniau i newid ffiniau etholaethau a lleihau’r nifer o Aelodau Seneddol yn debygol o daro Llafur yn waeth na’r Torïaid, yn ôl ymchwil newydd.

Bwriad y Llywodraeth yw creu 600 o etholaethau newydd gyda nifer tebyg o etholwyr, o gymharu â’r 650 o etholaethau presennol sy’n amrywiol iawn o ran eu poblogaeth. O dan y drefn newydd, byddai nifer yr etholwyr a gofrestrwyd ym mhob etholaeth o fewn 5% i 74,769.

Mae pob un o seddau Cymru o dan y cwota hwnnw, ac mae’r un peth yn wir mewn rhannau o ogledd Lloegr lle mae Llafur yn gryf.

Mae ymchwil gan arbenigwr ar etholiadau, yr Arglwydd Hayward, yn dangos y byddai gostyngiad o tua 30 yn debygol yn nifer yr ASau Llafur o dan y drefn newydd, o gymharu â gostyngiad o 10-15 yn nifer yr ASau Torïaid. Mae’n debygol y byddai’r SNP hefyd yn colli rhai o’u seddau.

Gyda niferoedd mawr o ASau Llafur am orfod cystadlu yn erbyn ei gilydd am yr etholaethau newydd, gallai’r newidiadau wneud pethau’n fwy anodd fyth i’r rheini sy’n gwrthwynebu Jeremy Corbyn.

Wrth ymateb i’r ymchwil, dywedodd y Fonesig Rosie Winterton, prif chwip Llafur:

“Mae hyn yn dystiolaeth bellach mai’r unig gymhelliad dros y newidadau hyn yw rhoi mantais annheg i’r Torïaid ar draul democratiaeth – gerrymandering a dim byd arall yw hyn.”