Neges ar dudalen Twitter Ronnie Draper
Mae Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Pobyddion, sy’n undeb cysylltiedig â’r Blaid Llafur, wedi cael ei wahardd gan y blaid ac wedi cael gwybod na all bleidleisio yn etholiad yr arweinyddiaeth.

Dywedodd Ronnie Draper wrth Press Association ei fod yn “mewn sioc” ar ôl derbyn llythyr yn dweud ei fod wedi cael wahardd o’r blaid dros dro nes bydd gwrandawiad disgyblu.

Mae undeb BFAWU, sydd â bron i 20,000 o aelodau yn y diwydiant bwyd, yn cefnogi Jeremy Corbyn yn ras arweinyddiaeth y blaid.

Yn ôl Ronnie Draper, sydd hefyd yn cefnogi Jeremy Corbyn, roedd wedi bod yn aelod o’r Blaid Lafur am 40 mlynedd.

Ychwanegodd ei fod wedi cael ei wahardd yn sgil sylwadau a ysgrifennodd ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae nifer o aelodau eraill y Blaid Lafur hefyd wedi cael eu gwahardd o’r blaid heddiw gydag un yn dweud bod pedwar o bobol, gydag aelodaeth ar y cyd o 163 o flynyddoedd, wedi derbyn llythyrau gan y blaid.

Mae person arall wedi dweud bod ei gais i ymuno â’r blaid wedi cael ei wrthod ar y sail ei fod wedi trydar cefnogaeth i’r Blaid Werdd.

Dywedodd y Blaid Lafur na allai wneud sylw ar achosion unigol.