Nigel Owens a Carwyn Jones yn trafod Gwobrau Dewi Sant yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni
Mae’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2017 wedi agor ac yn barod i glywed pwy yw’r bobl yng Nghymru sy’n gwneud pethau eithriadol.

Mae’r gwobrau, sydd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn, yn cydnabod llwyddiannau pobl ar hyd a lled Cymru.

Y tîm fydd yn cael y dasg o lunio’r rhestr fer eleni yw Emma Watkins, Cyfarwyddwr CBI Cymru, a Peter Fuller, a enillodd y wobr am ddewrder y llynedd ar ôl atal ymosodiad ffiaidd gyda chyllell machete mewn archfarchnad yn yr Wyddgrug.

Mae’r categorïau’n cynnwys Dewrder; Diwylliant; Menter; Dinasyddiaeth; Arloesedd a Thechnoleg; Rhyngwladol; Chwaraeon; Person Ifanc a Gwobr Arbennig Prif Weinidog Cymru.

Caiff y gwobrau eu cyflwyno i’r enillwyr mewn digwyddiad yn y Senedd ar 23 Mawrth 2017 gyda’r cyflwynydd Angharad Mair a’r dyfarnwr rygbi Nigel Owens wrth y llyw.

 

Beirniadaeth


Yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, dywedodd Nigel Owens, sy’n un o gyn-enillwyr y gwobrau, bod angen “lledaenu’r neges” gan nad oedd o’n gwybod amdanyn nhw cyn cael ei enwebu.

Fe enillodd Nigel Owens wobr arbennig y Prif Weinidog eleni am fod yn llysgennad gwych i Gymru ac mae’n credu ei bod hi’n “wych bod nosweithiau fel hyn yn cael eu cynnal i werthfawrogi cyfraniad pobl o bob rhan o’n cymdeithas.”

Meddai Nigel Owens: “Dw i’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r seremoni a chyfarfod â’r holl bobl eithriadol yma sy’n dod o bob cefndir ac sy’n hoelion wyth eu cymunedau. Dyma’r bobl sy’n gwneud Cymru yn wlad mor arbennig”.

‘Milltir ychwanegol’ 

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Ddydd ar ôl dydd, mae ’na grwpiau o bobl ac unigolion yn mynd y filltir ychwanegol er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun arall, goresgyn anawsterau, a chyflawni pethau sy’n wir ysbrydoliaeth i eraill.

“Mae Cymru yn llawn o bobl wych sy’n gwneud pethau eithriadol ac allan o’r cyffredin. Beth am roi iddyn nhw’r gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu, gan ddangos iddyn nhw bod eu cyfraniad yn bwysig a’ch bod yn gwerthfawrogi eu gwaith a’u hymdrechion diflino. Beth am eu henwebu nhw ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant.”

I enwebu rhywun ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant, ewch i www.stdavidawards.org.uk. Y dyddiad cau yw canol nos, 21 Hydref, 2016.