Nicola Sturgeon Llun: PA
Yn ôl Llywodraeth yr Alban gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd gostio hyd at £11.2 biliwn y flwyddyn i economi’r wlad.

Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd hefyd yn taro refeniw treth o hyd at £3.7 biliwn bob blwyddyn, yn ôl y dadansoddiad.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon bod y ffigurau yn dystiolaeth bellach o’r angen i warchod perthynas yr Alban gyda’r UE.

Mae’r dadansoddiad gan Lywodraeth yr Alban yn awgrymu y bydd Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y wlad rhwng £1.7 biliwn ac £11.2 biliwn y flwyddyn yn is erbyn 2030 nag y byddai wedi bod pe na bai Brexit wedi digwydd.

Rhagwelir refeniw treth i fod rhwng £ 1.7 biliwn ac £ 3.7 biliwn yn is.

Yr adroddiad yw’r cyntaf mewn cyfres y mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu cyhoeddi sy’n edrych ar yr effaith bosibl ar yr Alban wrth i’r DU adael yr UE.

Ail refferendwm annibyniaeth

Mae Nicola Sturgeon eisoes wedi dweud y gall canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin olygu bod pleidlais arall ar annibyniaeth i’r Alban yn “debygol iawn” ac mae hi wedi cynnal trafodaethau gyda’r Prif Weinidog Theresa May, sefydliadau’r UE ac aelod-wladwriaethau unigol ar y mater.

Mae hi hefyd wedi sefydlu grŵp arbenigol i roi cyngor ar warchod perthynas yr Alban ag Ewrop, ac mae wedi nodi pum buddiant allweddol y bydd yn ceisio diogelu yn ystod unrhyw drafodaethau.

Mae’r adroddiad yn nodi y gallai  gadael yr UE o bosibl weld cynnydd mewn cost allforio i farchnadoedd Ewrop, lleihau atyniad y DU i fuddsoddwyr tramor a gosod cyfyngiadau newydd ar lafur.

Bydd graddfa’r effeithiau o’r fath ar yr Alban yn dibynnu ar gytundeb Brexit y DU gyda’r UE, ac a fydd yr Alban yn llwyddo i sicrhau ei pherthynas unigryw ei hun gyda’r bloc.

Cymru

Yn ôl un o weinidogion Llywodraeth Cymru, does dim tystiolaeth naill ffordd neu’r llall bod Brexit wedi effeithio economi Cymru hyd yn hyn.

Er i Lafur Cymru rybuddio y byddai’r economi’n cael ei effeithio gan bleidlais i adael yr UE, dywedodd y gweinidog sgiliau Julie James wrth Radio Wales ddydd Llun bod yr economi yn ymddangos i fod yn sefydlogi ar hyn o bryd.

Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod dadansoddiadau yn cael eu gwneud yn fewnol ond mai’r  “unig ffigwr” sy’n bendant ar hyn o bryd yw’r £650m mae Cymru yn cael yn uniongyrchol o’r UE bob blwyddyn.