Yn ôl Aelodau Seneddol, mae angen gwneud mwy i daclo problemau cydraddoldeb cyflogaeth ymhlith Mwslemiaid yn y Deyrnas Unedig.

Mae adroddiad newydd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb yn amlygu’r ffaith bod Mwslemiaid yn wynebu’r lefel uchaf o ddiweithdra o bob grŵp crefyddol ac ethnig.

Mae 12.8% o Fwslemiaid allan o waith, o gymharu â 5.4% o’r boblogaeth gyffredinol.

Mae’r adroddiad yn galw ar weinidogion i gyflwyno strategaeth erbyn diwedd 2016 er mwyn helpu grwpiau penodol, gan gynnwys Mwslemiaid, ar y cyd ag ymrwymiad i daclo anfanteision sy’n wynebu pobol ddu a grwpiau ethnig eraill.

Yn ôl yr adroddiad, rhaid i’r Llywodraeth fynd i’r afael â gwahaniaethau yn y gweithlu a gwneud mwy i helpu pobol i gael gwaith.

Problemau rhaglenni integreiddio

Mae hefyd yn codi’r angen i’r Llywodraeth i feithrin ymddiriedaeth â chymunedau Mwslemaidd yn dilyn pryderon dros raglenni integreiddio sy’n rhan o strategaeth gwrth-frawychiaeth.

Yn ôl yr adroddiad, dylai rhaglenni o’r fath ganolbwyntio ar sut y gallan nhw wella bywydau pobol sy’n cymryd rhan, yn hytrach na gwrth-frawychiaeth.

“Ni allwn danseilio’r heriau sy’n wynebu’r Llywodraeth wrth daclo eithafiaeth ond wrth gynnal ein hymchwiliad, daethom ar draws Mwslemiaid nad oedd am siarad â ni am eu bod yn ofni bod ein hymchwiliad yn rhan o’r rhaglen Prevent,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Maria Miller.

“Cafodd strategaeth Prevent ei gyfeirio at ffynhonnell o densiwn gan sawl un a gymerodd rhan.”

Mwy o broblem ymhlith menywod

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i’r angen i daclo diffyg cydraddoldeb cyflogaeth sy’n wynebu menywod Mwslemaidd.

“Fe glywson ni dystiolaeth bod stereoteipio menywod Mwslemaidd yn gallu bod yn rhwystr i gael gwaith,” ychwanegodd Maria Miller.

Mae’n galw am gyflwyno modelau rôl a rhaglen fentora wedi’u hanelu at fenywod Mwslemaidd, codi ymwybyddiaeth cyflogwyr am wahaniaethu anghyfreithlon ac annog prifysgolion i gyflwyno cyngor gyrfaoedd penodol ar gyfer myfyrwyr o gefndir ethnig.

Rhaid i staff canolfannau gwaith gael eu hyfforddi i ddeall y problemau sy’n wynebu Mwslemiaid hefyd, yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Lywodraeth Prydain ei bod yn ystyried yr argymhellion ac y bydd ymateb “maes o law.”