Mae ymgeisydd y Gweriniaethwyr yn y ras i fod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, wedi cyhuddo’r Arlywydd presennol o fod yn “sylfaenydd” y Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Yn ôl Donald Trump mewn araith yn Fort Lauderdale, Fflorida, neithiwr, “Barack Hussein Obama ydi sylfaenydd” y grwp eithafol sydd wedi dod â thrais a hafoc i ddinasoedd Ewrop.

Fe adroddodd y cyhuddiad dair gwaith i gyd.

Yn y gorffennol, mae Donald Trump wedi cyhuddo ei wrthwynebydd yn y ras arlywyddol eleni, Hillary Clinton, o fod yn gyfrifol am greu’r mudiad. Wrth drosglwyddo’r bai ar Mr Obama, fe ddywedodd mai Clinton, bellach, ydi’r “cyd-sylfaenydd”.

Mae’r Ty Gwyn wedi gwrthod ymateb i honiadau Donald Trump.