Mae Aelod Cynulliad newydd Plaid Cymru wedi rhannu ei argraffiadau cynta’ newyddian yn y Senedd ym Mae Caerdydd, gan ddweud fod angen “bywiogi” y Senedd.

Yn ôl Steffan Lewis sy’n cynrychioli rhanbarth De Ddwyrain Cymru, mae trafodaethau’r Senedd yn dieithrio’r cyhoedd am eu bod “yn ddiflas”.

“Dyw pobol ddim yn dilyn yr hyn sy’n digwydd yno, oherwydd bob tro maen nhw’n dechrau gwylio mae’r trafodion yn ddiflas,” meddai mewn erthygl ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig.

“Maen nhw’n disgwyl golygfa debyg i’r hyn sy’n San Steffan gyda’r gweiddi a’r gwawdio,” meddai.

Esboniodd ei fod am weld mwy o dân yn y Senedd oherwydd, “pan mae siambr yn swnllyd ac yn fywiog, mae gwleidyddiaeth yn fyw ac felly mae democratiaeth hefyd.”

‘Agor drysau’r Senedd’

Awgrymodd y dylai mwy nag arweinwyr y pleidiau a’r llefarwyr gael yr hawl i ofyn cwestiynau heb roi rhybudd o flaen llaw.

Mae hefyd am weld y Senedd yn ymgysylltu mwy â’r cyhoedd, gan awgrymu y dylai’r cyhoedd allu anfon eu cwestiynau drwy ebost, Twitter neu Facebook at bwyllgorau’r Cynulliad.

“Byddai’n ffordd i glywed persbectifau gwahanol, ac yn agor drysau democratiaeth Gymreig i’r boblogaeth eang,” meddai.

Ac o ran diwyg y Siambr, dywedodd ei fod yn “ymdebygu at swyddfa agored yn hytrach na sedd ein democratiaeth genedlaethol.”

Dywedodd ei fod wedi gofyn am waredu ei gyfrifiadur personol o’r Siambr er mwyn “osgoi gwirio e-byst yn ystod trafodaethau”, ond doedd hynny ddim yn bosib, meddai.

Am hynny, mae’n galw ar y Llywydd i ystyried rhoi dewis i Aelodau Cynulliad i gael cyfrifiaduron o’u blaenau ai peidio.