Llun: BBC
Dylai sêr y BBC sy’n ennill mwy na’r Prif Weinidog gael eu gorfodi i gyhoeddi eu cyflogau, yn ôl grŵp dylanwadol o Aelodau Seneddol.

“Nid oes rheswm da” i berfformwyr, cyflwynwyr a phrif weithredwyr “gelu” eu cyflogau os ydyn nhw’n ennill mwy na’r Prif Weinidog, meddai’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.

Yn ôl cadeirydd dros dro’r pwyllgor, Damian Collins, mae’n “annidwyll” bod y BBC yn honni ei bod angen cyfrinachedd er mwyn atal sianeli eraill rhag ceisio denu eu talent atyn nhw.

“Mae pawb yn y diwydiant yn gwybod faint mae pawb arall yn cael eu talu,” meddai.

Ychwanegodd nad oedd rheswm pam fod cynlluniau’r Llywodraeth ar gyfer siarter brenhinol newydd wedi gosod trothwy o £450,000 ar gyfer sêr y gorfforaeth, sy’n uwch na’r trothwy ar gyfer prif weithredwyr.

Dylai’r trothwy fod yr un peth ar gyfer prif weithredwyr a’r dalent, meddai.

Mae’r adroddiad yn ymateb i’r argymhellion ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth.