Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dechrau adennill eu tir yn araf bach mewn isetholiadau cynghorau yn Lloegr, ar ôl gipio un sedd o Lafur a’r llall o’r Ceidwadwyr.

Enillodd y blaid yn ward Totnes yng Nghyngor South Hams, ger Cernyw, gyda Llafur yn cael etholiad digon siomedig, gydag un cyn-weinidog cabinet, Ben Bradshaw, yn rhoi’r bai ar gefnogwyr Jeremy Corbyn.

“Corbynwyr yn mynd â Totnes CLP, yn dewis ymgeisydd anghymwys sy’n rhedeg yn ‘Annibynnol’ ac yn colli ein hunig sedd yng nghyngor South Hams! Da iawn!” meddai.

Canlyniad y bleidlais, a gafodd ei chynnal ar ôl i gynghorydd Llafur ymddiswyddo, oedd: Democratiaid Rhyddfrydol 812, Y Blaid Werdd 499, Annibynnol 391, Ceidwadwyr 137.

Mewn pleidlais arall, fe gipiodd y Democratiaid Rhyddfrydol sedd oddi ar y Ceidwadwyr ar Gyngor Cernyw, a hynny o 13 pleidlais yn unig.

Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol 247 o bleidleisiau, y Ceidwadwyr 234, Annibynnol Yeo 163, Mebyon Kernow 161, Llafur 77, Annibynnol Spencer, 75, Annibynnol 54.

Cafodd y bleidlais ei chynnal yn dilyn ymddiswyddiad cynghorydd o’r Blaid Geidwadol.

Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill saith sedd o bleidiau eraill mewn etholiadau lleol.