Gallai asiantiaid o’r gwasanaethau diogelwch fod yn gyfrifol am fwlio a cham-drin beirniaid Jeremy Corbyn mewn ymgais i greu trafferth i arweinydd Llafur, yn ôl pennaeth undeb llafur Unite Len McCluskey.

Dywedodd McCluskey, sy’n gefnogwr amlwg o Jeremy Corbyn, fod gan y gwasanaethau diogelwch hanes o “arferion tywyll” ac awgrymodd y gallai “asgellwyr de” cudd fod yn gyfrifol am weithredoedd sydd wedi cael eu cysylltu ag arweinydd Llafur.

Wrth siarad gyda phapur newydd y Guardian, tynnodd sylw at ddogfennau cudd a gafodd eu rhyddhau ddwy flynedd yn ôl yn dweud bod cadeirydd yr Undeb Cludiant a Gweithwyr Cyffredinol yn 1972 yn gweithio i’r MI5 ac y gallai rhywbeth tebyg ddigwydd o hyd.

Meddai Len McCluskey: “Dyw unrhyw un sydd ddim yn meddwl bod hynny’n digwydd ddim yn byw yn yr un byd rwy’n byw ynddo. Rwy’n ei gweld hi’n anhygoel os nad yw pobl yn meddwl bod y math yma o beth yn digwydd.”

Ac wedi i AS Pontypridd, Owen Smith, gyhuddo Jeremy Corbyn o adael i “ddiwylliant bwlio” ffynnu o fewn y Blaid Lafur heddiw, cyhuddodd Len McCluskey ASau ac aelodau eraill o’r blaid oedd wedi cwyno o fygythiadau marwolaeth a brawychu o wneud mor a mynydd o’r broblem.