Nicola Sturgeon Llun: PA
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “chwarae gemau  gwleidyddol” dros Trident, wrth i Aelodau Seneddol baratoi i bleidleisio yn y Senedd heno i adnewyddu’r rhaglen niwclear.

Mae’r SNP yn gwrthwynebu adnewyddu’r arfau niwclear sy’n cael eu cadw ym mhorthladd Faslane yn yr Alban, gyda 54 o ASau yr SNP yn y Senedd  yn gwrthwynebu’r cynnig.

Mae Nicola Sturgeon yn honni fod amseriad y bleidlais “yn wleidyddol, ac ar bwnc mor bwysig â dyfodol ein harfau niwclear, ni ddylai’r Llywodraeth chwarae gemau gyda’r bleidlais hon.”

Ychwanegodd: “Dwi’n credu y dylid gohirio’r bleidlais. Rydym newydd gael y cyfnod gwleidyddol mwyaf cythryblus, ac mae’r bleidlais hon yn digwydd heb y craffu priodol.”

Mae Nicola Sturgeon yn annog ASau Llafur i bleidleisio yn erbyn yr arfau niwclear.

“Fe fydd ASau’r SNP yn pleidleisio yn erbyn adnewyddu Trident a dwi’n gobeithio y bydd ASau’r Blaid Lafur yn gwneud yr un fath.”

‘Anfaddeuol’

Mae Nicola Sturgeon yn dadlau fod adnewyddu Trident yn gostus ac yn anaddas i’r byd modern:   “Dwi’n meddwl y byddai’n anfaddeuol os yw’r Blaid Lafur, sy’n rhanedig ynglŷn â hyn, yn hollti yn hytrach na chymryd penderfyniad egwyddorol yn erbyn adnewyddu Trident ac yn erbyn gwario o bosib £200 biliwn ar arfau na fyddem fyth yn eu defnyddio, ac na fydd yn ffordd iawn i amddiffyn ein hunain yn y byd modern.”

Ychwanegodd: “Dwi’n meddwl y byddai’n anfaddeuol os na fydd yr wrthblaid yn cynnig gwrthwynebiad gwirioneddol heddiw.”

Mae gan Lafur bleidlais rydd ar y pwnc.