Y Canghellor George Osborne Llun: PA
Yn ôl y Canghellor, gallai’r ffaith fod gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd olygu perthynas fasnachu agosach rhwng y Deyrnas Unedig ac America.
Mae George Osborne yn Efrog Newydd heddiw i gynnal trafodaethau â buddsoddwyr mawr yn y wlad.
Dywedodd ei fod am ddechrau trafod gydag aelodau Cytundeb Masnach Rydd Gogledd America, sy’n cynnwys yr Unol Daleithiau, Canada a Mecsico, er mwyn creu cysylltiadau cryfach.
Dros yr wythnosau nesa’, bydd hefyd yn teithio i Asia, er mwyn annog y cyfandir i fuddsoddi rhagor yn y DU, yn dilyn pryderon y gallai canlyniad Brexit wneud y DU yn rhywle llai deniadol i gwmnïau tramor.
Yn ôl y Canghellor, er bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, “dydyn ni ddim yn cilio o’r byd.”
Mae Brexitwyr wedi mynnu y byddai gadael yr UE yn galluogi’r DU i benderfynu ar ei chytundebau masnachu gyda gwledydd, heb y cymhlethdod o gytuno ar fan cyffredin gyda’r 27 aelod arall.
Cyfle i “bennu amodau ein hunain”
Wrth ysgrifennu yn y Wall Street Journal, dywedodd George Osborne: “Fydd ‘na ddim newidiadau yn syth i’n perthynas â’r UE, nag i’r ffordd y gall ein nwyddau symud neu i’r ffordd y gall ein gwasanaethau gael eu gwerthu.
“Fydd Prydain ddim yn cael ei brysio; byddwn yn cymryd ein hamser i benderfynu ar y trefniadau masnachu gyda’n cyfeillion Ewropeaidd y tu allan i’w hundeb gwleidyddol.”
Ychwanegodd fod gan Brydain “am y tro cyntaf ers 40 mlynedd”, y cyfle i “bennu ar ei hamodau masnachu ei hun.”
Partneriaeth ag America
America yw’r lleoliad unigol mwyaf ar gyfer allforion o’r DU, a Phrydain yw partner masnachu mwyaf yr Unol Daleithiau yn Ewrop.
Yn 2014, fe wnaeth allforion y DU i America ddod i gyfanswm o £88 biliwn, sef tua 17% o allforion y DU i gyd.
O holl wledydd y byd, y llynedd, Prydain oedd chweched partner mwyaf yr Unol Daleithiau.
Mae George Osborne eisoes wedi amlinellu cynlluniau dros leihau treth gorfforaethol i 15% mewn ymdrech i ddenu busnesau o dros y dŵr.