Yr ymgeiswyr -Theresa May, Andrea Leadsom, Stephen Crabb, Michael Gove, Dr Liam Fox
Mae cam cyntaf y broses i ethol arweinydd y Ceidwadwyr a Phrif Weinidog newydd y DU wedi dechrau heddiw gyda’r gyfres gyntaf o bleidleisiau gan ASau Ceidwadol.

Yn ôl ymchwil gan y Press Association, mae’n edrych yn debyg mai Theresa May yw’r ceffyl blaen gyda 126 o ASau wedi datgan eu cefnogaeth iddi.

Yn ail mae Andrea Leadsom gyda chefnogaeth 39 o ASau, Michael Gove yn drydydd gyda chefnogaeth 25 o ASau, Stephen Crabb â 22 a Liam Fox â chefnogaeth 6 AS yn unig.

Er hyn mae cefnogaeth newydd Boris Johnson i’r Gweinidog Ynni, Andrea Leadsom, wedi bod yn hwb iddi mewn polau piniwn diweddar.

Fe gyhoeddwyd heno bod yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Stephen Crabb, wedi tynnu allan o’r ras a bellach yn cefnogi Theresa May.

Camau nesaf

Fe fydd y bleidlais yn cau am 6yh heno, lle bydd yr ymgeisydd â’r nifer lleiaf o bleidleisiau’n ffarwelio â’r ras, gyda phleidlais arall yn cael ei chynnal ddydd Iau a dydd Mawrth.

Bydd hyn yn gadael dau ymgeisydd ar ôl i gael eu dewis gan tua 150,000 o aelodau’r Blaid Geidwadol erbyn 9 Medi.

Fe gyhoeddodd David Cameron ei fod yn ymddiswyddo yn dilyn canlyniad y refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.