Theresa May: Arweinydd nesaf y Ceidwadwyr?
Mae’r polau diweddaraf yn dangos mai Theresa May sydd ar y blaen yn y ras i olynu David Cameron fel arweinydd y Blaid Geidwadol.

Mae’n ymddangos bod ymgais Michael Gove i atal Boris Johnson rhag dod yn arweinydd wedi cael effaith negyddol ar ei ymgyrch i herio’r Ysgrifennydd Cartref.

Ac fe allai Andrea Leadsom wthio Gove i mewn i’r trydydd safle wrth i’w hymgyrch hithau gynyddu ei phoblogrwydd ymhlith pleidleiswyr.

Mae Leadsom wedi’i chymharu ei hun â Margaret Thatcher.

Dywedodd hi wrth bapur newydd y Sunday Telegraph: “Fel person, roedd hi bob amser yn garedig ac yn gwrtais ac fel arweinydd, roedd hi’n ddygn ac yn benderfynol.”

Dywedodd Gove ei fod e wedi penderfynu nad oedd ganddo fe hyder yng ngallu Boris Johnson i arwain Prydain yn dilyn y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond yn ôl y polau diweddaraf, mae 60% yn cefnogi Theresa May.

Mae oddeutu 46% o bleidleiswyr yn dweud mai hi fyddai’r ymgeisydd gorau i ddod yn Brif Weinidog.

Mae ganddi hi hefyd fwy o gefnogaeth ymhlith aelodau seneddol y blaid na’r un o’r ymgeiswyr eraill.

Gove sy’n ail ar hyn o bryd, ond mae’r bwcis yn disgwyl i Leadsom orffen yn ail cyn y bydd y ddau ymgeisydd terfynol yn mynd ben-ben.

Mae’r bleidlais gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Mawrth.

Yn ôl y pôl gan ICM, doedd 55% ddim wedi gallu mynegi barn am Leadsom na’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Stephen Crabb.

Doedd 42% ddim wedi gallu mynegi barn am Liam Fox, y pumed ymgeisydd yn y ras.

Mae ymgyrch Leadsom wedi cael ei heffeithio gan araith sydd wedi dod i’r golwg, lle dywedodd hi dair blynedd yn ôl y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn “drychineb” i Brydain.