Rhiannon Hincks
Cymraes o Aberystwyth, Rhiannon Hincks, sy’n esbonio’r ymateb ym Mrwsel wedi i Brydain ddewis gadael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos ddiwethaf…

Roedd deffro bore dydd Gwener fel hunllef.

Roeddwn i’n syllu ar fy ffôn mewn anghrediniaeth lwyr, ac yn teimlo’n sâl wrth ddarllen y newyddion bod Prydain wedi penderfynu gadael yr UE.

Mewn eiliad, roedd ein heconomi, ein hunaniaeth, ein dyfodol a’n hawliau i gyd o dan fygythiad. Roeddwn i bellach yn teimlo cywilydd, fel pe bawn i’n fradychwr ym Mrwsel, dinas sy’n dathlu llwyddiant a gwerthoedd yr UE ym mhob ffordd.

Gan ddal tacsi i adeilad y BBC i gael cyfweliad i drafod pethau, roedd clywed y newyddion yn Ffrangeg ar y radio yn swrrealaidd a’r awyrgylch yn ofnadwy.

Roedd y ddinas i gyd yn syn ac roedd teimlad dwys o argyfwng a thristwch yn yr awyr, yn enwedig wrth agosáu at adeilad y Comisiwn a chlywed pobl yn siarad am y bunt yn colli ei gwerth, a goblygiadau trychinebus eraill y penderfyniad i Brydain.

‘You are all crazy’

Ym Mrwsel, roedd fel petai llygaid y byd yn syllu’n gyhuddgar arnom ni, a phawb yn ceisio deall o ble y daeth y penderfyniad tyngedfennol hwn.

Pam nad oedd cyfiawnder i Ewrop, ac i’w chenhedlaeth iau yn arbennig?

Beth am y 48% a oedd yn gefnogol i Ewrop ac yn ei gwerthfawrogi fel sylfaen i’w gwerthoedd a’i hunaniaeth?

“You are all crazy”, meddai menyw mewn siop bapurau yn agos i’r Comisiwn wrthym ni y bore hwnnw.

Brad

Y tu hwnt i’r teimlad o ddicter a dryswch ym Mrwsel, mae hefyd pryder mawr, a ninnau’n dychmygu gweld yr Undeb Ewropeaidd yn dadfeilio o flaen ein llygaid, o dan rym y tu hwnt i synnwyr a chyfiawnder.

Yn waeth byth mae ceisio esbonio i bobl beth a achosodd y brad yma, a cheisio cyfleu cyn lleied o synnwyr a oedd ynghlwm wrth benderfyniadau’r rheiny a ddewisodd adael.

Sut mae egluro bod y rhan fwyaf ohonynt wedi pleidleisio o dan ddylanwad ffug addewidion, diffyg dealltwriaeth ynghylch Ewrop, ac i brotestio yn erbyn cyni a oedd yn codi o bolisïau’r Blaid Geidwadol ac nid o bolisïau Ewrop?

Hunanladdiad Cymru

Wrth geisio esbonio’r penderfyniad o safbwynt y Cymry, yr unig beth sy’n dod i’r meddwl yw taw hunanladdiad ydoedd.

Y gwir amlwg iawn yw bod yr union gymunedau sydd wedi elwa fwyaf o’r UE wedi bradychu eu dyfodol a dyfodol eu cenhedlaeth iau drwy hyn.

Mae ceisio derbyn eich bod wedi eich amddifadu o’r fraint o fod yn rhan o’r UE, ac nad yw mwyafrif poblogaeth eich gwlad yn rhannu’r un gwerthoedd â chi y tu hwnt o anodd.

Mae’n anos byth, mewn ffordd, dderbyn yr anghyfiawnder hwn wrth ddirwyn i ben blwyddyn wych o fyw ac astudio yng nghalon Ewrop.

Mae Rhiannon Hincks yn fyfyrwraig MA yn astudio technoleg cyfieithu ym Mhrifysgol Leuven, a bydd yn dychwelyd i Gymru yn yr wythnosau nesaf wedi blwyddyn ym Mrwsel.