Mae arweinwyr yr undebau llafur wedi dweud mai’r flaenoriaeth yn sgîl Brexit yw diogelu swyddi.

Roedd y rhan fwyaf o’r undebau amlwg wedi ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er bod ambell i un fel undeb gweithwyr y rheilffyrdd o blaid gadael.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC Frances O’Grady: “Mae pobol Prydain wedi mynegi eu hunain yn glir.

“Wrth i’r Deyrnas Gyfunol baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, y flaenoriaeth gyntaf yw diogelu swyddi ac amddiffyn safonau byw pobol mewn gwaith.

“Rhaid i’r Llywodraeth fynd ati ar frys i greu cynllun i amddiffyn a chadw swyddi Prydeinig. Mae hynny’n golygu amddiffyn y bunt a sbarduno’r economi.

“Ni ddylai pobol mewn gwaith dalu’r pris am y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.”

Dywedodd arweinydd undeb Unite, Len McCluskey mai cyfrifoldeb y Blaid Lafur, “plaid y bobl mewn gwaith, yw sefyll mewn undod i sicrhau eu bod yn cadw at eu cyfrifoldeb i amddiffyn swyddi, ein gwasanaethau cyhoeddus a safonau byw rhag yr ansicrwydd all ddigwydd”.