Jo Cox - wedi marw (Yui Mok/PA)
Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod yr Aelod Seneddol Llafur, Jo Cox, wedi marw ar ôl ymosodiad ar y stryd yn ei hetholaeth.

Roedd wedi cael ei rhuthro i’r ysbyty ar ôl i ddyn ei saethu ddwywaith y tu allan i lyfrgell yn Birstall ger Leeds lle’r oedd hi wedi bod yn cynnal cymorthfa.

Yn ôl llygad-dystion, roedd y dyn wedi bod yn ei chicio ar lawr ac, wedyn, pan geisiodd dyn arall ymyrryd wedi ei saethu.

Dyn wedi ei arestio

Mae Heddlu Gorllewin Swydd Efrog yn dweud bod dyn 52 oed wedi cael ei arestio.

Yn ôl pobol leol, Tommy Mair, yw enw’r dyn ac roedd wedi gweiddi “Prydain yn gyntaf” wrth ymosod.

Roedd Jo Cox, a oedd yn 41 oed ac yn fam i ddau o blant, yn cael ei hystyried yn un o’r ASau Llafur newydd mwya’ addawol ac yn ymgyrchydd amlwg.

Negeseuon gan wleidyddion

Cyn y newyddion am farwolaeth AS Batley a Pen, roedd negeseuon o gefnogaeth a dychryn wedi cael eu hanfon gan nifer fawr o wleidyddion o bob plaid.

Bellach, mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yn dweud fod aelodau’r blaid wedi eu siglo’n llwyr gan y newyddion.