Jo Cox - AS Batley a Spen ers 2015 (llun o'i gwefan)
Mae adroddiadau gan asiantaeth y Press Asssociation fod aelod seneddol wedi cael ei saethu.
Maen nhw’n dyfynnu llygad dyst sy’n dweud bod yr ymosodiad ar AS Batley a Spen yn Swydd Efrog, Jo Cox,
Roedd y saethu wedi digwydd yn Birstall, ger Leeds, meddai’r adroddiad.
Y manylion diweddara
Mae’n ymddangos ei bod wedi ei saethu yn y stryd y tu allan i lyfrgell lle bydd yn cynnal cymorthfeydd.
Roedd pobol wedi ei gweld yn gorwedd ar y palmant a gwaed o’i chwmpas.