Cyhuddo Cameron a Llywodraeth Prydain o osgoi gwneud penderfyniadau
Mae pennaeth WikiLeaks, Julian Assange wedi datgan ei gefnogaeth i’r ymgyrch tros adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth iddo ladd ar Brif Weinidog Prydain, David Cameron am ddefnyddio’r Undeb Ewropeaidd fel esgus am y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud ganddo.

Fe fu Assange yn byw yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers bron i bedair blynedd wrth iddo geisio osgoi cael ei estraddodi i Sweden, lle gallai wynebu cael ei holi ar amheuaeth o gyflawni troseddau rhyw.

Pe bai’n mynd i Sweden, fe allai gael ei orfodi i fynd i’r Unol Daleithiau i gael ei holi.

Mewn cyfweliad â rhaglen Peston on Sunday ITV, dywedodd ei fod yn credu y dylai Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae rhywbeth dwi wedi cael profiad ohono fy hun, sef gweld y llywodraeth hon, llywodraeth Cameron, yn defnyddio’r UE dro ar ôl tro fel gorchudd gwleidyddol o ran ei phenderfyniadau ei hun.”

Ychwanegodd fod materion yn cael eu trosglwyddo i Ewrop cyn i Cameron honni na all wneud unrhyw beth am y sefyllfa.

Dywedodd na ddylai “swyddogion ar hap” gael yr hawl i ddweud wrth yr heddlu bod rhaid iddyn nhw arestio unigolion. Ond dywedodd fod Cameron yn mynnu nad oes gan y llywodraeth ddewis ond cynnal gwarchae yn llysgenhadaeth Ecwador.

Hillary Clinton

Yn ystod y cyfweliad, awgrymodd Assange fod gan WikiLeaks wybodaeth am Hillary Clinton, sy’n ceisio dod yn Arlywydd Democrataidd yr Unol Daleithiau.

Fe ddywedodd hefyd fod Donald Trump, yr ymgeisydd Gweriniaethol, yn “ffenomen hollol anrhagweladwy”.