Fe fyddai tua 300,000 o swyddi newydd yn cael eu creu pe bai Prydain yn cael ei “rhyddhau” o “rwymau” yr Undeb Ewropeaidd, meddai Boris Johnson.

Mae ymgyrchwyr ‘Leave’ wedi addo y byddai yna hwb enfawr i economi Prydain pe bai pleidleiswyr yn bwrw croes tros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm ar Fehefin 23 eleni.

Mewn rali yn y Parc Olympaidd yn Llundain, fe gyflwynodd yr ymgyrch ‘Leave’ y rhesymau tros adael – yn bennaf er mwyn adennill rheolaeth tros arian Prydain, economi Prydain, ei ffiniau, ei diogelwch a’i threthi.

“Os wnawn ni bleidleisio tros adael, fe allwn ni ffurfio cysylltiadau newydd gydag economïau eraill y byd,” meddai Boris Johnson. “Mae rhain yn fargeinion y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ceisio, ac wedi methu, eu taro oherwydd y tensiynau oddi mewn i’r Undeb.

“Wedi i ni’n rhyddhau ein hunain o rwymau Brwsel, fe fyddwn ni’n gallu creu cannoedd o filoedd o swyddi newydd ledled gwledydd Prydain,” meddai wedyn.

“Mae rhai’n dweud nad ydan ni’n ddigon cry’ i sefyll ar ein traed ein hunain. Am lol! Mae yna fyd o gyfleoedd a llewyrch allan yna, os y cymerwn ni’r cam i adennill ein rheolaeth dros ein dyfodol ein hunain.”

Ymchwil 

Mae’r ymgyrch ‘Vote Leave’ yn honni bod ymchwil ym Mrwsel yn dangos fod yr Undeb Ewropeaidd wedi methu â hoelio cytundebau masnachu gyda’r Unol Daleithiau, Japan, India, Cymdeithas Cenhedloedd De-Ddwyrain Asia, a bloc Mercosur yn Ne America.

Roedd hynny wedi costio 284,341 o swyddi Prydeinig, meddai’r ymgyrch.