Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, wedi cadarnhau y bydd yn cymryd rhan mewn dadl deledu yr wythnos nesa’ ar farer refferendwm Ewrop.

Mae enwau’r gwleidyddion eraill a fydd yn ymddangos ar y rhaglen nos Iau nesa’, eto i’w cyhoeddi gan y darlledwr, ITV, ond mae disgwyl y bydd Boris Johnson yn ymddangos er mwyn amddiffyn yr achos tros adael Ewrop.

Fe fydd yn dilyn dadl deledu rhwng Prif Weinidog Prydain, David Cameron, ac arweinydd plaid Ukip, Nigel Farage, sydd i gael ei darlledu nos Fawrth yr wythnos nesa’.

“Rydw i wedi cael fy ngwahodd, yn rhinwedd fy swydd yn arweinydd yr SNP ac yn Brif Weinidog yr Alban, i gymryd rhan yn y ddadl, ac rydw i’n awyddus i roi’r achos cadarnhaol ac o bersbectif Albanaidd, tros aros yn Ewrop,” meddai Nicola Sturgeon.

“Ond mae’r dadleuon tros aros yn Ewrop er mwyn gwarchod swyddi, hawliau gweithwyr, llewyrch economaidd a diogelwch, yn rhai sy’n berthnasol i bobol ledled gwledydd Prydain, nid yr Alban yn unig.”