Ffoaduriaid o Syria Llun: PA
Fe allai hanner miliwn o ffoaduriaid a’u perthnasau symud i Brydain ar ôl 2020 oherwydd rheolau’r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â rhyddid pobl i deithio, yn ôl adroddiad newydd.

Tra bod yr Almaen, Gwlad Groeg a’r Eidal wedi derbyn y rhan fwyaf o’r ffoaduriaid sy’n cyrraedd ffiniau Ewrop, fe allai’r rhai sy’n gwneud cais llwyddiannus am loches ymgartrefu yn y DU yn ystod y blynyddoedd nesaf ar ôl iddyn nhw gael dinasyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Mae’r adroddiad gan Migration Watch, sy’n ymgyrchu ar reolau mwy tynn ar ffiniau Ewrop,  yn dweud bod adolygiad o ffigurau’r UE yn dangos y gallai cannoedd ar filoedd o bobl ddilyn y llwybr yma i’r DU.