Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mae’r cyn-brif weinidog Tony Blair wedi datgan yn glir nad oes arno eisiau gweld Jeremy Corbyn yn brif weinidog.

Mewn cyfweliad teledu, rhybuddiodd y byddai i’w olynydd fel arweinydd Llafur gael ei ethol fel prif weinidog yn “arbrawf beryglus iawn” i Brydain.

“Mae’r tir canol mewn gwleidyddiaeth yn wynebu her fawr,” meddai Tony Blair.

“Dyw pobl fel Jeremy Corbyn ddim yn cynnig unrhyw atebion ar yr economi, nac ar bolisi tramor.

“Dw i’n meddwl y byddai’n arbrawf beryglus iawn i un o brif wledydd y gorllewin gael ei denu gan bolisïau popiwlist ar y chwith neu’r dde.”