Llun: PA
Mae nifer y mewnfudwyr i Brydain wedi cynyddu i’w ail lefel uchaf ers i gofnodion ddechrau, yn ôl ffigurau swyddogol.

Amcangyfrifir bod y ffigwr – sef y gwahaniaeth rhwng nifer y bobl sy’n cyrraedd ac yn gadael – yn 333,000 am y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2015.

Mae’r ffigwr 10,000 yn uwch na’r lefel a gofnodwyd yn y flwyddyn hyd at fis Medi.

Daeth tua 270,000 i’r DU y llynedd – cynnydd o 6,000 – gydag 86,000 o Brydeinwyr yn gadael y DU – gan roi ffigwr o 184,000 – 10,000 yn fwy na’r 12 mis blaenorol.

Yn ôl ystadegwyr mae’r cynnydd yn bennaf oherwydd bod nifer y dinasyddion o Fwlgaria a Rwmania sy’n ymfudo wedi cynyddu o 44,000 i 58,000.

‘Allan o reolaeth’

Mae ymgyrchwyr o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi manteisio ar y cyfle i bwysleisio’r angen i “adfer rheolaeth o fewnfudo.”

Dywedodd Boris Johnson, cyn-Faer Llundain nad oedd wedi newid ei feddwl ynglŷn â’r “buddion enfawr” y mae mewnfudwyr yn ei gyfrannu i’r wlad, ond bod yn rhaid mynd i’r afael a’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus.

“Mae’r system allan o reolaeth. Allwn ni ddim rheoli’r niferoedd… mae’n rhoi pwysau anferth ar ysgolion, ysbytai a chartrefi. Mae’n cael ei ecsbloetio gan rai cwmnïau mawr sy’n defnyddio mewnfudo fel ffordd i gadw cyflogau’n isel,” meddai Boris Johnson.

Ond mae ymgyrchwyr o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn dadlau na fyddai gadael yr UE yn datrys y broblem.