Mared Ifan
Dim syndod nad yw llawer o bobol ifanc yn pleidleisio, yn ôl Mared Ifan

‘Workin, learnin, earnin, roamin’ – dyna’r ffordd mae’r plant cŵl i gyd yn siarad y dyddiau ‘ma wyddoch chi. Neu dyna beth mae’r ymgyrch ‘Remain’ yn refferendwm Ewrop yn ei gredu.

Mae’n debyg bod fideo, sy’n ceisio annog pobol ifanc i bleidleisio dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, heb gael y croeso yr oedd ei gynhyrchwyr wedi gobeithio, a dwi’n gallu gweld pam.

Mae’r fideo sydd wedi cael ei disgrifio’n “nawddoglyd” ar Twitter, yn cynnwys trac sain o fiwsig clwb nos, gyda golygfeydd byr o bobol ifanc yn dawnsio (mewn clwb nos wrth gwrs), chwistrellu graffiti ar wal a pharasiwtio o awyren.

Mae’r clip 26 eiliad, sydd i weld yn gwbl yn erbyn y llythyren ‘g’, yn gorffen gan annog pobol i fynd allan i “votin”, os allan nhw wneud hynny yn eu hamserlen brysur yn “roamin”, “earnin”, “learnin” a “workin”.

Bwriad y fideo, dwi’n meddwl, yw portreadu bywydau pobol ifanc heddiw, gan bwysleisio’r cyfleoedd maen nhw’n eu cael o fod yn rhan o Ewrop – cyfleoedd i weithio, teithio a chael arian i wario.

I fod yn deg, dwi’n gallu gweld y chwarae ar y geiriau i gael pobol i bleidleisio “IN” yn Ewrop, er wrth amddiffyn y fideo, dydy’r ochr ‘Aros’ i’w gweld ddim yn crybwyll hynny.


Pellhau pobol ifanc o wleidyddiaeth

Ond, fel sydd wedi’i grybwyll ar Twitter, mae’r fideo yn boenus o nawddoglyd ac yn dangos nad oedd gan yr un person ifanc ddim i’w wneud â’i gynhyrchu.

Mewn ymgais i geisio cael pobol ifanc i gymryd diddordeb mewn pleidlais fydd yn effeithio ar eu bywydau am byth, mae’n debyg mai eu pellhau o’r broses wleidyddol mae’r fideo hwn wedi’i wneud.

O ystyried mai ymgyrchoedd fel hyn sy’n cael eu creu i “ddenu’r ifanc” at wleidyddiaeth, pam ydyn ni’n synnu nad yw’r rhan fwyaf o bobol rhwng 18 a 24 yn trafferthu i bleidleisio?