Fe allai Prydain orfod dioddef dwy flynedd arall o lymder os yw’n pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), yn ôl adroddiad.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) wedi rhybuddio y gallai Llywodraeth y DU ehangu ei thoriadau llymder yn sgil pleidlais Brexit wrth iddi fynd i’r afael a llai o incwm cenedlaethol a chynnydd mewn benthyciadau yn y sector cyhoeddus.

Yn ôl yr IFS fe fyddai pleidlais dros adael yr UE yn golygu y byddai economi’r DU ar ei cholled o rhwng £20 biliwn a £40 biliwn yn 2019/20 os yw cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) 2.1% i 3.5% yn llai dros y cyfnod.

IFS ‘ddim yn sefydliad niwtral’

Ond mae Vote Leave, yr ymgyrch o blaid gadael yr UE, wedi wfftio rhybuddion yr IFS gan ddweud nad yw’n “sefydliad niwtral” ac y byddai “ar ei cholled o £800,000 petai ni’n pleidleisio dros adael yr Undeb.”

Yn 2014, roedd 11% o’r arian ar gyfer ymchwil y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) yn dod gan yr Undeb Ewropeaidd ac mae wedi derbyn mwy na £5.6 miliwn gan ffynonellau’r Comisiwn Ewropeaidd ers 2009, yn ol Vote Leave.