Tony Blair Llun: PA
Wythnosau’n unig cyn i adroddiad Chilcot ar Ryfel Irac gael ei gyhoeddi, mae’r cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, wedi cyfaddef nad oedd gwledydd y Gorllewin wedi sylweddoli beth fyddai’r problemau yn Irac ar ôl i Saddam Hussein gael ei ddisodli yn 2003.

Mae hefyd wedi dweud bod angen dychwelyd milwyr ar droed o Brydain i Irac er mwyn brwydro yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd.

Dywedodd y cyn-arweinydd Llafur bod angen mynd i’r afael ag IS cyn iddyn nhw feddiannu rhagor o dir yn Libya a bod angen “brwydr ar dir” er mwyn  trechu’r grŵp eithafol sydd â chadarnleoedd yn Irac a Syria.

“Does yna’r un ffordd o drechu’r bobol hyn heb eu trechu ar dir,” meddai.

“Dyw cyrchoedd awyr ddim yn mynd i drechu IS, mae’n rhaid mynd i’r afael a nhw ar y tir.”

‘Gwersi i’w dysgu’

Mewn digwyddiad yn San Steffan heddiw, dywedodd Tony Blair fod “gwersi i’w dysgu” o ryfel Irac gan ddweud ei fod wedi “tanbrisio yn ddifrifol y lluoedd oedd yn gweithio yn y rhanbarth ac a fyddai’n cymryd mantais o’r newid unwaith i’r gyfundrefn gael ei ddiddymu.”

“Pan dych chi’n cael gwared ar unben, mae yna luoedd o ansefydlogrwydd yn dod wedyn.”

‘Trechu yn hollbwysig’

Yn ogystal, wrth ystyried y sefyllfa yn Libya, dywedodd ei fod yn “gweld pŵer IS yn Libya heddiw a gallwn ni fel Ewrop ddim fforddio gadael i IS lywodraethu rhan fawr o Libya,” meddai, gan ddweud y byddai hynny’n “anghyfrifol.”

Dywedodd fod lle i gefnogi lluoedd lleol wrth fynd i’r afael ag IS ond “dylen ni ddim amau  nad oes angen eu trechu ar dir, yn y lle y maen nhw’n brwydro,” meddai.

“Dydyn ni ddim yn bod yn onest gyda’r cyhoedd os ydyn ni’n dweud ei bod hi’n bosibl i drechu’r bobol hyn ond heb wneud ymrwymiad i wneud hynny.”

“Yn fy marn i, mae eu trechu yn hollbwysig, oherwydd os nad ydyn ni’n gwneud hynny maen nhw’n mynd i ddod ac ymosod arnom ni yma. Nid brwydr rhywun arall ydy hon, mae’n frwydr inni hefyd.”

Mae disgwyl i’r adroddiad hir-ddisgwyledig gan Syr John Chilcot gael ei gyhoeddi ar 6 Gorffennaf eleni, ac mae disgwyl iddo feirniadu’r cyn-Brif Weinidog a’i Weinidogion.