Hinkley Point yng Ngwlad yr Haf Llun: PA
Mae prif weithredwr y cwmni ynni EDF o Ffrainc wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd cynlluniau ar gyfer atomfa niwclear Hinkley Point yn mynd ymlaen er gwaetha’r oedi cyn gwneud penderfyniad am fuddsoddiad terfynol.

Dywedodd Vincent de Rivaz wrth Aelodau Seneddol o’r Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd bod yr arian yn ei le a’u bod wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer y prosiect.

Ond fe benderfynodd y cwmni i ymgynghori gydag undebau llafur yn Ffrainc ar ôl i rai ohonyn nhw alw am oedi’r cynllun am ddwy neu dair blynedd oherwydd pryderon ynglŷn ag effaith y datblygiad yng Ngwlad yr Haf ar sefyllfa ariannol y cwmni.

Fe ddechreuodd yr ymgynghoriad ar 2 Mai ac fe allai gymryd hyd at 60 diwrnod i’w gwblhau, meddai Vincent de Rivaz, gan ychwanegu ei fod eisiau penderfyniad terfynol yn fuan.

Dywedodd Vincent de Rivaz  wrth y pwyllgor ym mis Mawrth y byddai’r cynlluniau ar gyfer Hinkley Point yn bendant yn cael eu gweithredu, gan gyfeirio at araith gweinidog economi Ffrainc Emmanuel Macron a ddywedodd y byddai penderfyniad terfynol ynglyn a’r buddsoddiad yn cael ei wneud ar ddechrau mis Mai.

Ond dywedodd Emmanuel Macron yn ddiweddarach y gallai’r penderfyniad gael ei ohirio tan fis Medi.