Mae dirprwy arweinydd yr SNP, Stewart Hosie wedi cyhoeddi ei fod yn camu o’r neilltu.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn adroddiadau bod Hosie ac un arall o Aelodau Seneddol yr SNP, Angus McNeill ill dau wedi bod yn cael perthynas â’r newyddiadurwraig Serena Cowdy.

Yn ei lythyr yn datgan ei fwriad, dywedodd Hosie wrth Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ei fod yn “ymddiheuro am unrhyw loes” a gafodd ei achosi.

Dywedodd fod ei benderfyniad yn rhoi “hen ddigon o amser i’r blaid ddewis olynydd”.

Ychwanegodd fod “straen o ganlyniad i graffu dwys” ar ei fywyd preifat wedi bod yn “anodd iawn”.

Dywedodd y byddai’n troi ei sylw at ei etholaeth, ei gyfrifoldebau yn San Steffan a’i iechyd.

Ychwanegodd: “Bu’n bleser gwasanaethu o dan eich arweiniad ac rwy’n gobeithio gwneud hynny am nifer o flynyddoedd eto.

“Dymunaf bob llwyddiant i chi, eich llywodraeth a’n plaid ni.”

Wrth ymateb, dywedodd Nicola Sturgeon: “Wrth i chi gamu o’r neilltu fel dirprwy arweinydd, gwn y byddwch yn parhau i wneud cyfraniad gwerthfawr i’r blaid mewn nifer o ffyrdd ac yn benodol, drwy eich gwaith yn eich etholaeth ac fel rhan o’r grŵp yn San Steffan.”