Justin Trudeau (o'i wefan ymgyrchu)
Prif Weinidog Canada yw’r arweinydd rhyngwladol diweddara’ i rybuddio am y peryg o Brexit.

Yn ôl Justin Trudeau, fydd hi ddim yn hawdd i’r Deyrnas Unedig daro ei bargeinion masnach ei hun gyda gwledydd fel Canada.

Roedd y dadleuon yn cael eu symleiddio, meddai, er mai perthynas Canada a’r Undeb Ewropeaidd yw model cefnogwyr Brexit ar gyfer gwledydd Prydain hefyd.

‘Gwell gyda’n gilydd’

“Fe fydd gan Brydain wastad ddylanwad, ond mae’n amlwg yn cael ei gryfhau o fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd,” meddai Justin Trudeau wrth asiantaeth newyddion Reuters.

“Dw i’n credu ein bod ni wastad yn well pan fyddwn ni’n cydweithio mor agos â phosib a dyw ymwahanu neu rannu ddim i’w weld yn llwybr cynhyrchiol i wledydd.”

Mae Justin Trudeau y dilyn prif weinidogion Awstralia a Seland Newydd sydd hefyd wedi galw am i wledydd Prydain aros yn yr Undeb Ewropeaidd.